Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dathlu Cyflawniad Ysgolion Iach a Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y Fflint 
  		Published: 04/07/2018
Cynhelir y digwyddiad dathlu cyflawniad ddydd Gwener 13 Gorffennaf 2018 9.15am 
- 11.30am yn Ysgol Gwynedd, Fflint. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y 
cyd gan Gynllun Ysgolion Iach a Chymdeithas Gemau Ysgolion Cynradd Sir y 
Fflint. 
Bydd disgyblion syn cynrychioli nifer fawr o ysgolion cynradd o fewn y sir yn 
mynychu, er mwyn derbyn eu gwobrau a gyflwynir iddynt gan Gadeirydd Cyngor Sir 
y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham a Claire Homard, Prif Swyddog Dros Dro 
dros Addysg ac Ieuenctid.
Mae鈥檙 digwyddiad i ddathlu, yn cydnabod cyflawniad ysgolion yn y Cynllun 
Ysgolion Iach ynghyd 芒 chyflawniadau chwaraeon timoedd ysgol ac unigolion ar 
draws nifer o chwaraeon gwahanol, a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd 
cynrychiolwyr o鈥檔 pedair Ysgol uwchradd hefyd yn ymunor dathliad eleni.
Bydd uchafbwyntiau penodol y digwyddiad yn cynnwys cyflwyno Gwobr Ansawdd 
Genedlaethol i Ysgolion Iach i 2-3 ysgol am oddeutu 10.45am. Dilynir hyn trwy 
gyflwyno gwobrau ir Bachgen a Merch Mwyaf Addawol mewn Chwaraeon ar wobr 
Cyfraniad Eithriadol i Chwaraeon yn Sir y Fflint am oddeutu 10.55am.