Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint yn erlyn landlord a ganiataodd amodau byw gwael i deulu
  		Published: 03/07/2018
Mae landlord Sir y Fflint wedi鈥檌 ganfod yn euog o saith trosedd o dan 
ddeddfwriaeth tai a ddyluniwyd i amddiffyn tenantiaid yn y sector rhentu 
preifat, ar 么l erlyniad llwyddiannus gan d卯m Iechyd Amgylcheddol Sir y Fflint. 
Canfuwyd Stephen John Gleave o Brestatyn, sydd ag euogfarnau blaenorol am 
droseddau鈥檔 ymwneud 芒 thai, yn euog o fethu 芒 chydymffurfio 芒 Rhybudd Gwella a 
chwe throsedd tai arall, yn cynnwys: methu 芒 chofrestru ei eiddo rhent gyda 
Rhentu Doeth Cymru a methu 芒 chael trwydded i weithredu fel landlord preifat 
yng Nghymru 鈥 gyda鈥檙 ddau yn ofyniad cyfreithiol ers Tachwedd 2014.
Roedd yr eiddo a oedd yn destun Rhybudd Gwella, a gyflwynwyd o dan Ddeddf Tai 
2004, yn deras dau lawr yn Shotton, gyda mam a鈥檌 dau o blant yn byw ynddo.
Nid oedd yr eiddo wedii drawsnewid yn dda, ac nid oedd wedi鈥檌 gynnal gan 
Gleave am nifer o flynyddoedd. Or herwydd, roedd y teulu wedi gorfod dioddef 
lleithder treiddiol, diffyg dwr poeth, diffyg gwres digonol, cyfleusterau cegin 
ac ymolchi gwael, darpariaethau diogelwch t芒n gwael a pheryglon cwympo 
difrifol. 
Roedd Gleave hefyd wedi parhau i wrthod cofrestru ei dri eiddo rhent yn Sir y 
Fflint gyda Rhentu Doeth Cymru ac wedi methu 芒 gwneud cais am, a chynnal, 
hyfforddiant gorfodol er mwyn cael trwydded i weithredu fel landlord yng 
Nghymru. 
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar 
gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae鈥檙 erlyniad llwyddiannus hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i 
sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn bodloni鈥檙 holl safonau 
gofynnol sydd eu hangen ar gyfer tai preifat yng Nghymru. Rydym yn credu bod 
gan bawb yr hawl i fyw mewn cartref sydd mewn cyflwr da, gyda mynediad parod at 
bob amwynder hanfodol a heb unrhyw beryglon adeileddol. Er ein bod yn ceisio 
lleihau effeithiau iechyd o ganlyniad i gyflyrau tai gwael drwy gyfuniad o 
gyngor a chymorth ariannol, o bryd iw gilydd rydym yn delio gyda materion sydd 
mor ddifrifol fel bod erlyn yn hanfodol. Mae鈥檙 erlyniad hwn yn anfon neges glir 
at landlordiaid preifat eraill, bod diffyg cydymffurfiad 芒 safonau tai cyfredol 
a diffyg cydymffurfiad 芒 chyfreithiau Rhentu Doeth Cymru 鈥 yn gwbl annerbyniol.鈥
Cafodd Gleave, na ddaeth ir gwrandawiad llys, ddirwy o 拢10,600, a 拢1,688 o 
gostau a鈥檌 orchymyn i dalu鈥檙 cyfanswm o fewn 28 diwrnod neu wynebu 
ymddangosiadau llys pellach.