Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd
  		Published: 03/07/2018
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal gwasanaeth dydd Sul Dinesig yn 
agos at ddechrau blwyddyn newydd y Cyngor, syn dechrau ym mis Mai. 
Cadeirydd newydd y Cyngor sy’n dewis yr Eglwys. Mae Cadeirydd y Cyngor yn dewis 
aelod o’r clerigwyr i weithredu fel ‘Caplan y Cadeirydd’ yn ystod eu blwyddyn 
mewn swydd. Eleni, Y Parchedig B Harvey, Rheithor y Fflint yw’r Caplan, a 
chynhaliwyd y Gwasanaeth Dinesig yn Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant yn Fflint 
ar 1 Gorffennaf 2018. 
Mynychwyd y gwasanaeth gan Uchel Siryf Clwyd, y Foneddiges Hanmer a’i gwr, Yr 
Arglwydd a’r Arglwyddes Jones, ASau lleol, ACau, Cynghorwyr, swyddogion Cyngor 
Sir y Fflint, pwysigion awdurdodau cymdogol a chynghorau tref a chymuned a 
theulu a ffrindiau’r Cadeirydd.