Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Codi Baner yr RAF yn Neuadd y Sir
  		Published: 04/07/2018
Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch o groesawu Comodor yr Awyrlu Adrian Williams 
i Seremoni 100 mlwyddiant yr RAF yn Neuadd y Sir yn ddiweddar a nodwyd yr 
achlysur drwy godi Baner y Lluoedd Arfog Prydeinig yn Neuadd y Sir. 
 Roedd Cynghorwyr, Cadetiaid Awyr dan Hyfforddiant a chynrychiolwyr busnesau 
lleol Airbus ac ENI yn ogystal 芒 chyn-filwyr wedi mwynhau cyflwyniad ar hanes 
yr RAF yng Nghymru gan Gomodor yr Awyrlu. 
Mae RAF100 yn ymgyrch genedlaethol i nodi 100 mlynedd ers ffurfio鈥檙 Llu Awyr 
cyntaf - a鈥檙 mwyaf adnabyddus.   Yn adlewyrchu ar ei gofnod balch o 
wasanaethu鈥檙 genedl, mae鈥檙 RAF yn coffau鈥檙 gwasanaeth ac aberth y rhai sydd 
wedi mynd; yn diolch i鈥檞 filwyr am eu hymroddiad ac am ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth 
nesaf, fel y gallwn barhau i ddatblygu ein byd gyda鈥檔 gilydd ar gyfer y 100 
mlynedd nesaf a thu hwnt.  
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham:
鈥淢ae鈥檔 fraint ac yn anrhydedd bod yn rhan o鈥檙 achlysur hanesyddol hwn ac rwy鈥檔 
croesawu Comodor yr Awyrlu Adrian Williams, swyddog rheng uchaf yr RAF yng 
Nghymru yma heddiw:  Mae gan Sir y Fflint gysylltiad cryf gyda鈥檙 RAF yn mynd yn 
么l llawer o flynyddoedd, gan gynnwys RAF Sealand a llawer o drigolion Sir y 
Fflint sydd wedi gwasanaethu neu sy鈥檔 gwasanaethu yn yr RAF.   Mae llawer 
ohonom wedi ein cyffwrdd gan yr RAF mewn rhyw ffordd, felly mae鈥檔 bwysig 
cofio鈥檙 rhai sydd wedi colli eu bywydau a hefyd i edrych i鈥檙 dyfodol.   Felly, 
ar ran trigolion Sir y Fflint a Chyngor Sir Y Fflint, hoffwn ddiolch i chi, 
Comodor yr Awyrlu am 100 mlynedd o wasanaeth yr RAF a dymunaf bob llwyddiant i 
chi am lawer o flynyddoedd i ddod.鈥 
Darllenwyd cerdd 鈥淣o Spotlight over Coastal鈥 gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin, 
Cefnogwr Y Lluoedd Arfog yn ystod y seremoni, tra dywedodd Comodor yr Awyrlu:
鈥淢ae ein canmlwyddiant yn gyfle da i adlewyrchu ar hanes yr RAF yng Nghymru.  
Mae gennym gysylltiadau cryf rhwng yr RAF a Chymru dros y 100 mlynedd llawn.  
Mae gennym dair thema - coffau, dathlu ac ysbrydoli.  Ni yw鈥檙 llu awyr hynaf yn 
y byd ac rydym yn coffau 100 mlynedd o ragoriaeth, teyrngarwch, dewrder a 
phroffesiynoldeb, gyda miliwn o bobl yn gwasanaethu yn yr RAF yn ystod yr Ail 
Ryfel Byd yn unig, gan ddangos llawer o ddewrder anhygoel ac anhunanoldeb.
鈥淩ydym hefyd yn dathlu cyflawniad pobl sy鈥檔 gwasanaethu yn yr RAF heddiw, 
gyda鈥檔 milwyr yn gwasanaethu mewn llawer o leoliadau ar draws y byd, gan 
gynnwys Romania, Estonia a鈥檙 Dwyrain Canol. 
鈥淎c rydym eisiau ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf drwy fenter a gefnogwyd gan 
Lywodraethau鈥檙 DU a Chymru i gael mwy o bobl ifanc yn astudio ac yn dilyn 
gyrfaoedd yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg.   Drwy ddefnyddio 
Canmlwyddiant yr RAF, a鈥檔 cyfraniad o ddydd i ddydd o fewn gwyddoniaeth a 
thechnoleg, rydym eisiau cyrraedd dwy filiwn o bobl ifanc 9-15 oed ar draws y 
DU i helpu i hybu gwerth astudio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a 
Mathemateg yn yr ysgol. Os gallwn wneud hyn, byddai鈥檔 etifeddiaeth wych o 
Ganmlwyddiant yr RAF.
鈥淩ydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau rhwng Ebrill a Hydref ac roedd yr RAF 
yn bresennol yn Niwrnod Lluoedd Arfog y DU yn Llandudno ar 30 Mehefin.鈥
Ar 么l symud allan i flaen Neuadd y Sir, parhaodd y Comodor Awyrlu Williams:
鈥淒iolch am gynnal heddiw. Mae鈥檔 fraint gallu codi Baner yr RAF yn Sir y Fflint 
unwaith eto, yn y flwyddyn arbennig o ganmlwyddiant yr RAF.鈥 
Roedd y Parchedig David Yeo Poulton yn bendithio鈥檙 faner cyn ei chodi gan y 
Swyddog Hedfan Jonathan Davies, gyda chefnogaeth y Swyddog Hedfan Martyn Davies.
Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau ledled y DU, ewch i 
https://www.raf.mod.uk/raf100/