Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mabwysiadu Is-ddeddfau Tyllu鈥檙 Croen
Published: 17/05/2023
听
Gofynnir i Aelodau鈥檙 Cabinet fabwysiadu is-ddeddfau sy鈥檔 ymwneud 芒 thyllu鈥檙 croen pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 23 Mai.
Gofynnir i aelodau fabwysiadu is-ddeddfau i helpu i ddiogelu'r cyhoedd a gwella cydymffurfiaeth mewn perthynas 芒 gweithgareddau megis tyllu clustiau, tatwio, aciwbigo ac electrolysis.听听
Wrth roi sylwadau ar yr is-ddeddfau, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:
鈥淒iogelwch y cyhoedd yw鈥檙 sbardun allweddol i fabwysiadu鈥檙 is-ddeddfau ac rwy鈥檔 falch o ddweud bod y rhan fwyaf o fusnesau sy鈥檔 tyllu鈥檙 croen ar draws Sir y Fflint eisoes yn cadw at y safonau hylendid llym a nodir yn yr is-ddeddfau.
Fodd bynnag, rwy鈥檔 croesawu mabwysiadu鈥檙 is-ddeddfau鈥檔 ffurfiol er budd yr holl ymarferwyr cofrestredig a fydd yn helpu i reoleiddio tyllu鈥檙 croen yn effeithiol.鈥
Bydd mabwysiadu'r is-ddeddfau yn ffurfiol yn rhoi ystod o bwerau gorfodi i'r Cyngor gan gynnwys Hysbysiadau Cosb Benodedig a chynnal achosion cyfreithiol i'w gorfodi.听
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd yr is-ddeddfau鈥檔 cael eu mabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII, adrannau 14 i 17, a fydd yn berthnasol i bob un o鈥檙 78 o ymarferwyr cofrestredig yn Sir y Fflint o 1 Awst 2023.
听
听