天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu鈥檙 Datganiad Polisi Trwyddedu

Published: 17/05/2023

Gofynnir i Aelodau'r Cabinet gymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 23 Mai.

Mae鈥檙 Datganiad Polisi Gamblo drafft yn nodi r么l a chyfrifoldebau Cyngor Sir y Fflint o dan Ddeddf Gamblo 2005 a bydd yn cael ei rannu 芒鈥檙 Cabinet cyn iddo gael ei gyflwyno i鈥檙 Cyngor Sir ar 20 Mehefin 2023.听听

Gan siarad am yr adolygiad o鈥檙 Datganiad Polisi Gamblo, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Diogelu鈥檙 Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell:

鈥淢ae ein T卯m Trwyddedu wedi gweithio ar y cyd 芒 chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru i ddarparu polisi cyson a hygyrch ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru.

Mae'r polisi ar ei newydd wedd yn mynd i'r afael 芒 materion pwysig sy'n ymwneud ag atal trosedd ac anhrefn, gan sicrhau bod gamblo'n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored a'i fod yn amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag niwed neu gamfanteisio.

Rwy鈥檔 croesawu鈥檙 polisi drafft ac yn diolch i鈥檙 holl randdeiliaid am eu sylwadau sydd wedi鈥檜 hystyried wrth adolygu鈥檙 polisi.鈥

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Sir ym mis Mehefin, bydd y Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig yn dod i rym ar 21 Mehefin 2023 am gyfnod o dair blynedd.