Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adleoli capsiwl amser ysgol
  		Published: 11/07/2018
Cynhaliwyd seremoni yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Arbennig Pen Coch, y Fflint, 
i nodi adleoli鈥檙 capsiwl amser a gladdwyd yn wreiddiol n么l yn 2003 yn hen Ysgol 
Delyn, Yr Wyddgrug, 30 mlynedd ers i鈥檙 ysgol agor. 
Dewiswyd y lleoliad yma gan fod Ysgol Pen Coch, a gr毛wyd trwy uno hen ysgolion 
arbennig Ysgol Belmont, Bwcle, Ysgol Delyn yn Wyddgrug ac Ysgol y Bryn, 
Shotton, wedi ymroi i ddarparu addysg mewn modd cyfeillgar, creadigol ac 
arloesol i鈥檞 ddisgyblion.  
Mae Alexandra Court bellach yn meddiannu hen safle Ysgol Delyn, datblygiad a 
gwblhawyd yn ddiweddar o 16 ty cyngor newydd a adeiladwyd gan Wates Residential 
yn y Gogledd yn rhan o raglen dai strategol y Cyngor. 
Roedd disgyblion o gyngor yr ysgol yn bresennol yn y seremoni gan helpu i 
gladdu鈥檙 capsiwl yn ardd synhwyraidd yr ysgol.  Bydd lleoliad y capsiwl, a 
gafodd ei farcio gyda phlac, yn parhau yn y lleoliad am flynyddoedd i ddod, a 
phan fydd yn cael ei ailagor, fe fydd yn datgelu hanes hen Ysgol Delyn. 
Dywedodd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a鈥檙 Amgylchedd sydd ag atgofion 
hoffus o Ysgol Delyn yn nhref yr Wyddgrug; 
 鈥淒wi鈥檔 cofio鈥檙 capsiwl yn cael ei gladdu yn 2003 a pha mor gyffrous oedd y 
plant bryd hynny, ac rwy鈥檔 falch ei fod wedi dod o hyd i gartref newydd mewn 
lleoliad mor hyfryd yn Ysgol Pen Coch. 
 鈥淩oeddwn i hefyd yn falch o weld bod nifer o staff oedd yn arfer gweithio yn 
Ysgol Delyn ac sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Pen Coch yn gallu ymuno 芒 ni 
yn y seremoni鈥. 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: 
 鈥淎r 么l agor, fe sefydlodd Ysgol Pen Coch ei hun yn gyflym fel canolfan 
ragoriaeth i ddysgu anghenion arbennig ac mae Sir y Fflint yn falch iawn ohono, 
ac mae鈥檔 gwbl briodol bod y cyswllt rhwng yr ysgol newydd yma ac un o dair 
ysgol wych a ddaeth o鈥檌 flaen yn cael eu cofio fel hyn.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential yn y Gogledd, Richard Shroll: 
鈥淯n o bleserau mwyaf ein gwaith ar raglen dai y cyngor ydi dod i adnabod 
cymaint o鈥檙 gymuned leol, ac roedd ein t卯m yn falch iawn o helpu i gadw鈥檙 
capsiwl amser ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol i鈥檞 darganfod鈥. 
Nodyn i olygyddion
Yn y llun gyda disgyblion o gyngor yr ysgol mae (chwith i鈥檙 dde); aelodau staff 
yr ysgol Sharon Williams a Dawn Hopkins, Consort y Cadeirydd Mrs. Joan 
Cunningham, Cynghorydd Paul Cunningham, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, 
Cynghorydd Chris Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr George Tatum a Mick 
Cunningham o Wates Residential y Gogledd