天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digartrefedd a Phobl sy鈥檔 Cysgu ar y Stryd yn Sir y Fflint

Published: 17/04/2023

Yn rhan o鈥檌 ymrwymiad i ymagwedd 鈥淣eb Heb Help鈥 tuag at ddigartrefedd, gofynnir i aelodau鈥檙 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai barhau i gefnogi鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud gan ei Wasanaeth Tai ac Atal i liniaru digartrefedd a chefnogi pobl sy鈥檔 cysgu ar y stryd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos hon.

Mae digartrefedd yn wasanaeth statudol sydd dan bwysau sylweddol yn dilyn pandemig y Coronafeirws a鈥檙 heriau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 argyfwng costau byw.Mae鈥檙 farchnad dai sector preifat leol yn wynebu heriau sylweddol oherwydd bod llai o eiddo ar gael bob blwyddyn ac oherwydd bod llawer o landlordiaid yn gadael y farchnad. Mae hyn yn creu digartrefedd wrth i eiddo gael eu gwerthu, wrth i breswylwyr gael eu holi i adael ac o ganlyniad i鈥檙 ffaith bod llai o eiddo ar gael sy'n golygu nad ydyn nhw鈥檔 fforddiadwy i fwy a mwy o bobl.

Wrth wneud sylwadau ar gynnydd gwaith yn y Gwasanaeth Tai ac Atal yn Sir y Fflint, dywedodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, y Cynghorydd Sean Bibby:

鈥淢ae newidiadau i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yn benodol cyflwyno categori ychwanegol o Angen Blaenoriaethol ar gyfer cysgu ar y stryd a鈥檙 bobl sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, yn golygu y bydd hawl gan fwy o bobl ac yn enwedig pobl sengl i gael cymorth i ddod o hyd i lety, sy鈥檔 rhoi pwysau a chost cynyddol sylweddol ar y Gwasanaeth Tai ac Atal.

Er bod hyn yn heriol, mae cyfleoedd i ymgysylltu 芒 phobl na fydden nhw wedi cael cymorth yn y gorffennol, sydd bellach yn arwain at ganlyniadau tai neu les cadarnhaol.Mae llawer o waith da wedi鈥檌 wneud i gefnogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i ni ddod allan o bandemig y Coronafeirws ac mae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔 meithrin y momentwm hwnnw ymhellach.

Mae llawer o enghreifftiau da o ymyriadau y mae pobl leol yn eu defnyddio i atal digartrefedd yn cynnwys creu cynllun ad-dalu 么l-ddyledion rhent, cael cymorth 芒 chyllidebu, cymorth ag atgyweirio a chynnal a chadw eiddo a chymorth i deuluoedd ynghylch rheoli cydberthynas 芒 phobl ifanc鈥.

Bydd aelodau鈥檙 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai yn ystyried y gwaith cadarnhaol sy鈥檔 cael ei wneud i helpu pobl i gynnal eu tai er mwyn osgoi鈥檙 angen i ddefnyddio tai dros dro a thai brys drwy weithgareddau atal pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher, 19 Ebrill 2023.