Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
System Rhybuddion Argyfwng newydd yn cael ei phrofi'n genedlaethol ar 23 Ebrill 2023
Published: 12/04/2023
Mae system Rhybuddion Brys newydd llywodraeth y DU bellach yn fyw. Bydd y system yn ei gwneud hi'n bosibl cysylltu 芒 phobl drwy eu ff么n symudol pan fo bywydau mewn perygl.
Bydd yn cael ei ddefnyddio i'ch rhybuddio os bydd argyfyngau, megis llifogydd difrifol.
Anfonir Rhybuddion Argyfwng i bob ff么n symudol cydnaws mewn ardal risg. Nid ydynt yn olrhain eich lleoliad, nid oes angen eich rhif ff么n, ac nid ydynt yn casglu data personol. Dim ond y llywodraeth a'r gwasanaethau brys fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych ff么n symudol, byddwch yn dal i gael eich hysbysu trwy sianeli eraill.
听
Os cewch Rybudd Argyfwng ar eich ff么n, byddwch yn clywed sain uchel, tebyg i seiren. Bydd neges ar eich sgrin yn dweud wrthych am yr argyfwng a'r ffordd orau o ymateb. Byddwch yn gallu gwirio bod rhybudd yn ddilys yn Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK ()
Os byddwch yn derbyn rhybudd, darllenwch y rhybudd yn ofalus a dilyn y cyfarwyddiadau.
Gallwch optio allan o dderbyn rhybuddion brys; am fwy o wybodaeth ar sut i optio allan ewch i Am Rybuddion Argyfwng - GOV.UK ()
I ddysgu rhagor, neu wirio a yw rhybudd yn ddilys, ewch i
听
听
听
听