Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn anrhydeddu milwyr wrth gefn y lluoedd arfog
Published: 28/06/2018
Chwifiodd Cyngor Sir y Fflint faner y Lluoedd Arfog heddiw, 27 Mehefin, i
ddathlu Diwrnod Milwyr Wrth Gefn.
Mae鈥檙 Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr sy鈥檔 filwyr wrth
gefn yn ei wneud i鈥檙 Lluoedd Arfog, ein cymuned, ein sefydliad a鈥檔 cenedl.
Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn.
Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o鈥檜 hamser sb芒r i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth
Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn
barod i wasanaethu fel rhan o鈥檙 lluoedd arfog, pe bai eu hangen ar eu gwlad.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y
Fflint:
鈥淢ae ein gweithwyr sy鈥檔 filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein
Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a
thramor. Mae鈥檙 wybodaeth a鈥檙 sgiliau a g芒nt o鈥檙 lluoedd arfog yr un mor bwysig
ac maen nhw鈥檔 dod 芒鈥檙 rhain yn 么l i Gyngor Sir y Fflint. Mae pob un o鈥檔 milwyr
wrth gefn yn rhoi o鈥檜 hamser i wasanaethu鈥檙 genedl. Maen nhw鈥檔 gwneud gwaith
anhygoel ac mae鈥檔 fraint i ddathlu鈥檙 gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud.鈥
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham:
鈥淢ae鈥檙 seremoni hon yn rhan o wythnos y Lluoedd Arfog, gan gydnabod dewrder ac
ymrwymiad y Lluoedd Arfog, nawr ac yn y gorffennol, sy鈥檔 peryglu eu bywydau, ac
wedi peryglu eu bywydau, fel rhan o鈥檜 dyletswydd鈥.
Mae鈥檙 Cyngor yn gwbl ymroddedig i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, yn cynnwys
milwyr wrth gefn. Mae ein Polisi Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog yn nodi sut
byddwn yn eu cefnogi os c芒nt eu galw i wasanaethu.
Mae Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018 yn digwydd yn Llandudno 30
Mehefin.
#SaluteOurForces
#ReservesDay
Nodyn i olygyddion
Yn y lluniau ynghlwm mae;
2018 CS-0018-DE
Y Cyng. Haydn Bateman, Y Cyng. Bernie Attridge, Y Cyng. Andy Dunbobbin, Y
Cyng. Paul Cunningham a鈥檌 gymar, Mrs Joan Cunningham