ÌìÑÄÉçÇø

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau’r ailasesiad o ffyrdd lleol ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos

Published: 30/03/2023

Yn y cyfnod cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfyngiadau cyflymder 20mya, cafodd wyth cymuned ar hyd a lled Cymru eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol.Ìý

Ìý

Fel rhan o Gynllun Aneddiadau Cam Un, cafodd cyfyngiadau cyflymder 20mya eu cyflwyno ym Mwcle, Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami ar 28 Chwefror 2022.

Ìý

Yn gyffredinol o blaid 20mya ar stadau preswyl ac o amgylch ysgolion, mynegodd pobl leol bryder ynglyn â’i gyflwyno ar brif ffyrdd a strydoedd (y prif lwybrau teithio).Ìý

Ìý

Yn ymwybodol o’r pryderon hyn, mae trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal dros y 12 mis diwethaf ac mae’r Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu i ddylanwadu ar adolygiad a deall pryderon ynglyn â ffyrdd penodol.Ìý O ganlyniad i’r adborth hwnnw, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ailasesu nifer o ffyrdd ym Mwcle a’r ardaloedd cyfagos.Ìý

Ìý

Gan ddefnyddio’r meini prawf eithrio a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2022, mae deg ffordd leol bellach wedi’u dynodi fel rhai sydd â rhan hir a gwastad, sydd un ai’n bodloni’r eithriadau i gyfyngiadau terfyn cyflymder o 20mya, neu sydd angen asesiad pellach y tu allan i’r newid i 20mya yn y broses ddeddfwriaeth.Ìý Bydd y ffyrdd yma rwan yn mynd drwy ymgynghoriad statudol ym mis Gorffennaf, a gan dibynnu ar ganlyniad hwnnw, bydd terfynau sydd wedi’u hailasesu’n cael eu cyflwyno ym mis Tachwedd.

Ìý

Mae rhestr lawn o’r ffyrdd sydd wedi’u dynodi a lleoliad yr eithriadau i’w gweld ar wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/20bwcleÌý

ynghyd â chrynodeb o’r adborth a gafwyd gan drigolion lleol drwy’r arolwg aelwydydd a sesiynau gwybodaeth.Ìý Mae copïau o’r canlyniadau hefyd i’w gweld yn y Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle.Ìý Ìý

Ìý

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant:

Ìý

“Fe fydd gwersi a ddysgwyd gan y Cyngor yn ystod Rhaglen Aneddiadau Cam Un rwan yn cael eu defnyddio yn y gwaith o gynllunio at gyflwyno 20mya yn genedlaethol ar 17 Medi 2023.

Ìý

“Mae’r adborth a gasglwyd a chanlyniadau ailasesiad y Cyngor o ffyrdd lleol hefyd wedi eu rhannu â Llywodraeth Cymru.�

Ìý