Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi Digwyddiad Arddangos Treftadaeth Carchar Rhuthun
Published: 13/03/2023
听
Mae croeso i bawb i ddigwyddiad Arddangos Treftadaeth sy鈥檔 rhad ac am ddim, yng Ngharchar Rhuthun ddydd Mawrth, 28 Mawrth rhwng 10.30am a 3.30pm.听
Bydd stondinau ac arddangosfeydd gan amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys Cymdeithas Hanes Rhuthun, Amgueddfa Corwen, Cymdeithas Bwcle, Cyfeillion Mynwent Wrecsam, Menter Iaith ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae hefyd yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am y gwaith y mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ei wneud a鈥檙 adnoddau sydd ganddynt, yn ogystal 芒 chael cipolwg ar Garchar Rhuthun cyn iddo ailagor yn swyddogol ar 1 Ebrill.
Mae鈥檙 Digwyddiad Arddangos Treftadaeth wedi鈥檌 drefnu fel rhan o brosiect i gynnal archwiliad o鈥檙 swm helaeth o ddeunydd sydd wedi鈥檌 gynhyrchu gan unigolion, grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill dros y blynyddoedd i ddehongli treftadaeth gyfoethog Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae鈥檙 archwiliad yn ymdrin 芒 threftadaeth yn yr ystyr ehangaf gan gynnwys hanes, arloesi diwydiannol, bywyd bob dydd a鈥檙 amgylchedd naturiol ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.听
Nod yr archwiliad yw ei gwneud hi鈥檔 haws i unrhyw un sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 sector twristiaeth, busnesau lleol neu鈥檙 gymuned gael mynediad at y wybodaeth er mwyn cryfhau eu hymdeimlad o le.听
Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Caiff ei ariannu鈥檔 rhannol drwy raglen LEADER gan Cadwyn Clwyd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Jo Danson ar 01352 740385 neu drwy anfon e-bost - jo.danson7@gmail.com.
Mae鈥檙 prosiect hwn wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 鈥� Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy鈥檔 cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.听听
听