Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynnig Gofal Plant i Gymru, Sir y Fflint
  		Published: 20/06/2018
Mae Sir y Fflint yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod eu cynnig i 
gyllido gofal plant yn cael ei ehangu i saith awdurdod lleol arall ar draws 
Cymru.
Bydd rhieni yn derbyn cyfanswm o 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yn ystod 
tymor yr ysgol a hyd at 30 awr yn ystod gwyliaur ysgol.  Bydd yr addysg gynnar 
am ddim a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen yn ffurfio rhan o鈥檙 cynnig hwn.
Yng Ngogledd Cymru, fel un o鈥檙 awdurdodau peilot, mae Sir y Fflint wedi arwain 
y datblygiad o gynnig gofal plant, ynghyd 芒 Sir F么n a Gwynedd, a nawr bydd ar 
gael yn Wrecsam a Chonwy.
Bydd Sir y Fflint yn cynnig eu harbenigedd i gyd-weithwyr yn Wrecsam, wrth i鈥檔 
cymydog gyflwyno鈥檙 Cynnig. Yn y broses hon, bydd Wrecsam yn uchafu ar gymeriant 
gan rieni a darparwyr gofal plant. Bydd rhieni Wrecsam yn gallu ymgeisio 
ar-lein trwy ddolen ar dudalen gwe Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint neu 
dudalen gwe Cynnig Gofal Plant. 
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淢ae Sir y Fflint wedi arwain peilot hynod o lwyddiannus ac wedi datblygu ein 
technoleg bwrpasol ein hunain sydd wedi ei amlygu fel esiampl o arfer da, ac o 
fis Gorffennaf, bydd rhieni yn Wrecsam yn gallu manteisio ar ein system i wirio 
os ydynt yn gymwys ac ymgeisio.  Yn Sir y Fflint yn unig, rydym wedi gwneud 
gwahaniaeth gwirioneddol i 948 o deuluoedd cymwys.  Mae teuluoedd yn Sir y 
Fflint yn elwa cymaint 芒 拢5,535 y flwyddyn. Ers Medi 2017, mae Sir y Fflint 
wedi hawlio dros 拢 1.5 miliwn i gefnogi teuluoedd lleol.
 鈥淩ydym hefyd yn cefnogi lles plant ac yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 thlodi mewn 
plentyndod mewn ffordd uniongyrchol trwy gynyddu incwm gwarior cartrefi syn 
gweithio.  Mae nifer o deuluoedd wedi dweud wrthym ni fod hyn wedi cael effaith 
gadarnhaol ar eu lles.
 鈥淵n ogystal 芒 hynny, mae 184 o ddarparwyr gofal plant wedi cofrestru, sy鈥檔 
dangos ei fod yn boblogaidd iawn ymysg darparwyr.  
I ddarganfod os ydych yn gymwys, gwiriwch ar-lein ar:    
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/childcare-offer.aspx
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir 
y Fflint ar 01352 703500 neu anfonwch e-bost i fisf@flintshire.gov.uk.
Gallwch gysylltu 芒 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a thimoedd Gofal Plant 
Wrecsam ar 01978 292094 neu fis@wrexham.gov.uk.