天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Growth Track 360 yn ceisio cefnogaeth gan seneddwyr y DU ar gyfer 鈥楥ludiant Carbon Isel鈥 i hybu trawsnewid Rhanbarth Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Dinas Lerpwl yn 鈥楨conomi Carbon Isel鈥

Published: 06/03/2023

Growth track 360.jpgWrth i Ganghellor Trysorlys y DU, Jeremy Hunt AS, baratoi ei ddatganiad Cyllideb i鈥檞 gyhoeddi ar 15 Mawrth, mae arweinwyr busnes ac awdurdodau lleol yn y bartneriaeth Growth Track 360 wedi galw wyneb yn wyneb yn Senedd y DU am fuddsoddiad sylweddol yn y rheilffyrdd er mwyn trawsnewid economi鈥檙 rhanbarth trawsffiniol sy鈥檔 cynnwys Rhanbarth Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Dinas Lerpwl.

Mae Growth Track 360, mewn nifer o geisiadau i Lywodraeth y DU, wedi cyflwyno鈥檙 achos dros dri phrosiect allweddol o鈥檙 blaen:

  1. Trawsnewidiad Wrecsam i Lerpwl: Teithio鈥檙 Unfed Ganrif ar Hugain mewn Coridor o Ddiwydiannau o Safon Fyd-eang;
  2. Prif Lein Arfordir Gogledd Cymru: Datblygu Ynni Carbon Isel ac Ehangu Twristiaeth Dramor ac ym Mhrydain yn Gynaliadwy mewn Ardal o Harddwch Eithriadol; a
  3. Moderneiddio Gorsaf Caer: Porth Milflwyddol ar gyfer Dinas y Milenia.

Er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn natblygiad achos busnes y buddsoddiadau hanfodol hyn gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail, nid oes cyllid cyfalaf wedi ei ddyrannu鈥檔 ffurfiol eto.

Mewn cyflwyniad i Aelodau Seneddol a Thy鈥檙 Arglwyddi yn nau Dy鈥檙 Senedd, nododd Growth Track 360 fod rhanbarth ehangach Gogledd Cymru a Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy yn cynnal 63,000 o swyddi gweithgynhyrchu, yn cynhyrchu 拢11.4 biliwn mewn allforion yn flynyddol, ac yn croesawu 77.6 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ond mae鈥檔 parhau i fod yn llawer rhy ddibynnol ar gludiant ar y ffyrdd ar gyfer pobl a nwyddau, sy鈥檔 uchel mewn allyriadau.

Gan gymell seneddwyr i bwyso ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn ei dri phrosiect allweddol presennol, cyfeiriodd Growth Track 360 hefyd at y cyfleoedd am lawer mwy o gysylltedd rheilffordd ar gyfer Caer a gogledd Cymru a fydd yn dod yn ddichonadwy pan fydd HS2 yn cyrraedd Crewe. Gofynnodd GT360 i Aelodau Seneddol ac Arglwyddi鈥檙 rhanbarth i wneud popeth y gallant i gael buddsoddiad yn Crewe ar gyfer cyfnewidfa well i deithwyr ar gyfer gwasanaethau aml HS2.听

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Louise Gittins:

鈥淢ae gan y DU bob cyfle i fod yn un o genhedloedd arweiniol y byd yn y newid i Sero Net, ac mae llawer o鈥檙 prif ddiwydiannau galluogi wedi eu lleoli yma yn rhanbarth trawsffiniol Gogledd Cymru a Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy.听 I roi terfyn ar y tagfeydd yn ein system gludiant leol a chynyddu cysylltedd gyda gweddill y DU ac economi ehangach y byd, mae鈥檔 bryd i Lywodraeth y DU symud ymlaen gyda鈥檙 buddsoddiad sydd ei angen yn y rheilffyrdd.鈥

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Growth Track 360, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淵n y digwyddiad heddiw yn San Steffan, canfu arweinwyr dinesig ac arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru a chymunedau cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr fod ein gweledigaeth yn cael ei rannu fwyfwy ymysg prif bleidiau gwleidyddol y DU drwyddynt draw.听 Yr ydym angen i Lywodraeth y DU ein cynorthwyo i weithredu鈥檙 weledigaeth honno 鈥檙wan.鈥

Dywedodd Cynrychiolydd Busnes o Growth Track 360, Ashley Rogers, Prif Weithredwr Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy:

鈥淢ae Growth Track 360 yn cynrychioli ein heconomi drawsffiniol fodern a bywiog sydd 芒 busnesau diwydiannol eiconig a chyrchfannau twristiaeth o鈥檙 radd flaenaf.听 Mae buddsoddiad yn y rheilffyrdd wedi ei gyfuno gyda gwelliannau bysiau a theithio llesol yn elfennau hanfodol ar gyfer lleihau tagfeydd a datgloi twf economaidd cyflymach gyda chyflogaeth gyflog uchel, gan hefyd gyrraedd targedau Di-garbon Net.鈥