Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb
Published: 17/02/2023
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod ddydd Iau, 23 Chwefror, i wneud argymhellion terfynol ynglyn 芒 phennu cyllideb gytbwys a lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.聽 Cyflwynir yr argymhellion yng nghyfarfod y Cyngor llawn yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol.
Mae鈥檔 rhaid i bob Cyngor bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn.聽 Gan ei fod yn gyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid 鈥 wedi ei osod yn 20fed o鈥檙 22 cyngor yng Nghymru 鈥 mae Sir y Fflint wedi bod yn arbennig o agored i effeithiau cyni ers 2008.聽 Er gwaethaf hyn, mae Sir y Fflint wedi gostwng ei wariant o 拢100 miliwn dros y 14 blynedd ddiwethaf.
Eleni derbyniodd y Cyngor fwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn 拢19.5 miliwn ar gyfer Sir y Fflint.
Er bod hyn yn newyddion da ar gyfer 2023/24, ac yn cyfrannu rhywfaint tuag at bontio鈥檙 gofyniad o 拢37 miliwn yng nghyllideb y Cyngor, mae鈥檔 rhaid i ni barhau gyda鈥檔 dull gweithredu o reolaeth ariannol gref gan fod rhaid i ni bennu cyllideb gytbwys a chyfreithlon, ac nid ydym yn gwybod pa heriau fyddwn yn eu hwynebu yn 2024/25.
Mae鈥檙 cynnydd yn y cyllid, er ei fod yn cael ei groesawu, yn gorfod cystadlu gyda鈥檙 pwysau cyllidebol ychwanegol mae鈥檙 Cyngor yn eu hwynebu. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 pwysau yma y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, yn cynnwys:
- Mae鈥檔 rhaid i ddyfarniadau cyflog (i athrawon a rhai nad ydynt yn athrawon) gael eu hariannu gan gynghorau lleol;
- Fel pob awdurdod lleol, mae鈥檙 Cyngor yn parhau i brofi galw uchel, sy鈥檔 cynyddu, am lety dros dro;
- Mae鈥檙 pwysau ariannol eraill yn cynnwys: cludiant i ysgolion a lleoliadau y tu allan i鈥檙 sir ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol.聽聽
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae鈥檙 Cyngor wedi gosod cyfeiriad clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor fod yn 5% neu lai.聽聽
Gan ystyried hyn i gyd, mae鈥檔 golygu bod gofyniad cyllidebol ychwanegol neu fwlch o 拢37 miliwn. Mae angen cynnydd blynyddol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer holl wasanaethau鈥檙 Cyngor, gyda 0.96% ychwanegol ei angen i ddiwallu cost cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol GwE. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 4.95% ac yn darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o 拢5.622 miliwn yn 2023/24.
Mae hyn yn gyfystyr 芒 chynnydd blynyddol o 拢71.75 y flwyddyn ac yn dod 芒鈥檙 swm i 拢1,521.33 ar Fand D cyfatebol (yn cyfateb i 拢1.38 yr wythnos).
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淩ydym wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau ein bod yn cyflwyno cyllideb gytbwys ac yn cynnal gwasanaethau鈥檙 Cyngor.聽 Rydym yn ymwybodol iawn o鈥檙 pwysau ariannol mae pob aelwyd yn eu hwynebu, ac felly rydym wedi cadw鈥檙 elfen o Dreth y Cyngor sy鈥檔 ymwneud 芒 gwasanaethau鈥檙 Cyngor i 3.99%. Wrth edrych ar gyrff ardoll eraill, mae鈥檙 lefel gyffredinol yn 4.95%.鈥澛犅
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant, Cymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael y Cyngor:
鈥淓r bod y dyraniad uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn cael ei groesawu, mae heriau sylweddol yn dal i fod o ran diwallu鈥檙 cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer y gweithlu a chostau eraill. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gallu argymell sefyllfa gyllidebol gytbwys i鈥檙 Cyngor gan hefyd gadw鈥檙 cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor mor isel 芒 phosibl.聽 Rydym yn gyngor sy鈥檔 derbyn lefel isel o gyllid, sy鈥檔 gwneud defnydd effeithlon o鈥檔 hadnoddau 鈥 fel y cadarnheir yn rheolaidd gan ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.鈥
