Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Taclo鈥檙 鈥榶ch-a-fi鈥 i ryddhau pwer eich ailgylchu gwastraff bwyd
Published: 09/02/2023
Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond rydyn ni鈥檔 wlad gref wrth ailgylchu. Mae 95% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff yn rheolaidd, rydyn ni eisoes yn drydedd genedl orau鈥檙 byd am ailgylchu, a nawr rydyn ni鈥檔 gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu i gefnogi eu Hymgyrch Gwych i gael Cymru i rif 1.
Dyna pam rydyn ni鈥檔 galw ar ein preswylwyr i roi hwb i鈥檞 hymdrechion wrth ailgylchu gwastraff bwyd.听听
Er bod bron i holl ddinasyddion Cymru鈥檔 ailgylchu eitemau bob dydd fel cardbord, nwyddau ymolchi o鈥檙 ystafell 鈥檓olchi, a photeli plastig, mae llawer yn parhau i beidio ag ailgylchu eu holl wastraff bwyd. A dweud y gwir, mae tua thraean yr hyn sydd ym miniau sbwriel cyffredinol trigolion Sir y Fflint yn dal i fod yn fwyd a allai gael ei ailgylchu. Mae hyn yn golygu ein bod ni鈥檔 casglu mwy o wastraff bwyd drwy gasglu biniau du bob pythefnos nag yr ydym ni鈥檔 ei wneud drwy鈥檙 casgliadau ailgylchu wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd!
Mae pwer yn ein gwastraff bwyd 鈥 mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru鈥檔 cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig, ble caiff ei droi鈥檔 ynni gwyrdd. Ailgylchodd trigolion Cymru ddigon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi鈥檙 llynedd, ond gydag oddeutu 100,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd 鈥 digon i bweru 7,500 yn rhagor o gartrefi 鈥 caiff yr ynni adnewyddadwy hwn sy鈥檔 brwydro newid hinsawdd ei golli am byth.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a鈥檙 strategaeth cludiant rhanbarthol, Cyng Dave Hughes:听听
鈥淩ydym ni鈥檔 cefnogi鈥檙 ymgyrch hon oherwydd bod angen i bawb wneud mwy a gwneud eu rhan er budd y blaned, sy鈥檔 cynnwys ystyried ein harferion o ran gwastraff - mae鈥檔 rhaid i ni wneud pob ymdrech i leihau鈥檙 hyn yr ydym ni鈥檔 ei daflu - yn cynnwys lleihau gwastraff bwyd, ailddefnyddio eitemau pan fo hynny鈥檔 bosibl ac ailgylchu cymaint ag y gallwn ni ar ymyl palmant ac fel arall.听 听
鈥淩ydym ni i gyd yn cynhyrchu rhywfaint o wastraff bwyd nad oes modd ei osgoi - fel plisgyn wy, esgyrn, bagiau te a philion - y dylai gael eu hailgylchu (os nad ydyn nhw鈥檔 cael eu compostio gartref) i gynhyrchu ynni gwyrdd i helpu i roi pwer i gymunedau yng Nghymru.鈥澨 听
Datgelodd ymchwil WRAP Cymru mai鈥檙 rhwystr pennaf yw鈥檙 elfen 鈥榶ch-a-fi鈥, gyda鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn petruso oherwydd y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau a llanast. Fodd bynnag, nid yw鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae鈥檔 lanach na鈥檌 roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos, ac mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu鈥檔 cael ei gasglu鈥檔 llai aml.听
Rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel 鈥 fel plisg wyau, esgyrn, bagiau te a chrafion llysiau a ffrwythau 鈥 a dylid ei ailgylchu (os nad yw鈥檔 cael ei gompostio gartref) i greu ynni gwyrdd i helpu i bweru cymunedau yng Nghymru.听
Dyma 5 tip defnyddiol ichi gan Cymru yn Ailgylchu:
- Defnyddiwch fag leinio cadi 卢鈥 Bydd leinio eich cadi cegin yn cadw鈥檆h gwastraff bwyd yn well, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a鈥檌 atal rhag mynd yn ych-a-fi. Rhowch fagiau leinio mewn cadi gl芒n, sych, a gwnewch yn siwr nad ydych chi鈥檔 ei orlenwi, i osgoi torri鈥檙 bag leinio.听
- Osgowch eitemau hylifol 鈥 Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o鈥檆h cadi i atal 鈥榮udd bin鈥 rhag casglu鈥檔 ei waelod. Cewch arllwys symiau bach o鈥檙 eitemau hyn i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddwr i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio鈥檙 draeniau.
- Gwagiwch eich cadi gwastraff bwyd yn rheolaidd 鈥 gwagiwch gynnwys eich cadi cegin i鈥檙 bin gwastraff bwyd ar garreg y drws yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn orlawn, i atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu鈥檙 bagiau leinio cadi鈥檔 dynn cyn eu symud o鈥檆h cadi i鈥檆h bin. Os aiff eich cadi i ddrewi, yna mae鈥檔 bryd ichi wagio ei gynnwys i鈥檆h bin gwastraff bwyd ar garreg y drws a dechrau o鈥檙 newydd gyda bag leinio newydd.
- Cadwch gaead arno 鈥 Efallai ei fod yn swnio鈥檔 amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd iddo, ac yn atal arogleuon rhag dianc. Cofiwch hefyd gau鈥檙 caead cloadwy ar eich bin y tu allan yn sownd, i atal pryfetach a phl芒u, a diogelu yn erbyn tywydd gwyntog.
- Cadwch eich cadi鈥檔 l芒n 鈥 Glanhewch eich cadi cegin bob ychydig wythnosau. Rhowch rinsiad iddo yn y sinc. I lanhau eich cadi鈥檔 fwy trwyadl, gallwch ei ddiheintio gyda dwr poeth dros ben o鈥檙 tegell ac ychydig o hylif golchi llestri.听
Os oes gennych lemon dros ben na fydd yn cael ei fwyta fel arall, gallech rwbio ei du mewn yn erbyn tu mewn eich bin. Mae鈥檔 ddiaroglydd naturiol a bydd yn helpu i ladd unrhyw germau a allai fod yn llechu yno.听
Am ragor o haciau a tips, ac i ddarganfod sut mae eich gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i fwrw golwg ar , ac ymunwch 芒鈥檙 sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio鈥檙 hashnod #ByddWychAilgylcha.
听