Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhoi wyneb newydd ar ffordd Liverpool Road, Bwcle
  		Published: 19/06/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi鈥檌 sicrhau ar gyfer 
y gwaith o roi wyneb newydd ar ffordd Liverpool Road, Bwcle, o gyffordd Smithy 
Lane i Rhuddlan Road. 
Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Llun 25 Mehefin 2018 ac yn cymryd tua thair 
wythnos i鈥檞 gwblhau.
Er mwyn hwyluso鈥檙 gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd, bydd goleuadau traffig 
dwy ffordd yn cael eu gosod tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, gyda therfyn 
cyflymder o 10mya o fewn parth y gwaith.
Bydd posib cael mynediad i eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth 
oedi.
Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr, Roadway Civil Engineerig Ltd, yn 
ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol 
hwn yn ei achosi, a byddwn yn ceisio cwblhau鈥檙 gwaith cyn gynted ag y gallwn.