Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Bws Newydd TrawsCymru ar gyfer Gogledd Cymru
Published: 26/01/2023
Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi gwasanaeth bws T8 TrawsCymru newydd fydd yn rhedeg bob awr rhwng Corwen, Rhuthun, Yr Wyddgrug a Chaer.听
Gan ddechrau ar 23 Ionawr 2023, bydd y bws T8 newydd yn cynnig gwasanaethau amlach a chyflymach, gan wella cysylltedd yn y rhanbarth a galluogi teithwyr i deithio heb orfod newid bws.听 听
Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a鈥檙 Gororau ac mae rhwydwaith TrawsCymru yn ehangu ac yn dod yn fwy cysylltiedig.听听
Fel rhan o'r gwelliannau hyn, bydd y T8 newydd yn cysylltu 芒'r T10 yng Nghorwen (Corwen - Betws y Coed - Bangor) a gyda mwy o deithiau ar y T3 (Wrecsam - Corwen - Bala - Dolgellau - Y Bermo), gan greu cyfnewidfa deithiol i gwsmeriaid.听
Bydd y gwasanaeth bws newydd yn cael ei weithredu gan M&H Coaches.听 Mae ap a gwefan newydd TrawsCymru yn rhoi鈥檙 gallu i gwsmeriaid brynu tocynnau symudol, cael yr wybodaeth ddiweddaraf, tracio gwasanaethau a鈥檙 cyfle i weld arbedion carbon yn sgil teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.听
Mae amserlenni newydd ar gael ar Traveline a gwefan TrawsCymru.听 听听
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd 芒 chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:听
鈥淏ydd gwasanaeth bws bob awr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr bysiau yn yr ardal ac yn helpu i annog mwy o bobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.听 Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gogledd ac mae datblygiadau鈥檙 dyfodol yn cael eu hystyried gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru dan arweiniad yr Arglwydd Burns.鈥
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Chymru Wledig:
'Y T8 yw'r diweddaraf mewn nifer o welliannau i wasanaethau bysiau rhanbarthol ledled Cymru.听 Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a chysylltedd ar gyfer trefi gwledig Cymru nad ydynt ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac edrychwn ymlaen at yr holl fanteision a ddaw yn sgil y gwasanaeth T8 newydd.'
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a鈥檙 strategaeth cludiant rhanbarthol, Cyng Dave Hughes:听听
"Mae'r T8 yn rhoi cyfle heb ei ail i wella'r cyfleoedd teithio sydd ar gael i drigolion de Sir Ddinbych.听 Yn y dyfodol, byddant yn elwa nid yn unig o wasanaethau amlach ond gwell gwasanaethau trwodd a chysylltiadau.听 Bydd hefyd yn galluogi'r rhai sy'n teithio o Loegr i fanteisio ar gyfleoedd hamdden ac i ymweld a Chymru."听
听