天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arweinwyr Ifanc y dyfodol!

Published: 18/01/2023

20230109_131405156_iOS.jpgYr wythnos ddiwethaf bu i fyfyrwyr o Ysgol Derwenfa ymuno ag Arweinwyr Ifanc MPCT鈥 ac roeddent wrth eu boddau!

Mae 鈥楢rweinwyr Ifanc MPCT鈥 yn rhaglen addysg cymeriad unigryw, wedi ei hanelu at roi鈥檙 gwerthoedd a rhinweddau i ddysgwyr i ddatblygu gwytnwch, empathi a sgiliau cyflogadwyedd trwy ethos milwrol ysgafn.

Bu i鈥檙 myfyrwyr dreulio amser yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gyda staff i ddatblygu sgiliau allweddol, yn arbennig hunanddisgyblaeth.听 Dangoswyd hefyd iddynt sut i orymdeithio a sefyll yn syth yn dilyn gwahanol orchmynion a pharhau i ganolbwyntio.听听

Dywedodd Laura Cartwright a John Jones, athrawon dosbarth:

鈥淏u i鈥檙 ddau ddosbarth wir fwynhau鈥檙 gweithgareddau ac elwa llawer ohonynt.听 Hoffem ddiolch i MPCT am eu hamser, maent wir wedi ysbrydoli鈥檙 plant i weithio tuag at eu nodau a chyflawni eu potensial llawn.听

Yn Ysgol Derwenfa rydym wedi bod yn gweithio鈥檔 galed i ddarparu cyfleoedd cyfoethogi sy鈥檔 cyfrannu at ddatblygiad eu cymeriad a pharatoi鈥檙 plant ar gyfer byd gwaith y dyfodol, trwy ddatblygu sgiliau bywyd trosglwyddadwy.鈥

Sylwadau gan rai o鈥檙 myfyrwyr:

鈥淩oeddwn wir yn hoffi鈥檙 lloches! Ac roedd y ddisgyblaeth yn wych ond anodd!鈥

鈥淩oeddwn yn hoffi pan fu i ni adeiladu den yn y goedwig, roedd yn hwyl.鈥

鈥淩oeddwn wir yn ei hoffi. Fe wnaeth fy nysgu i barchu eraill a fi fy hun. Roedd hefyd yn llawer o hwyl ac roedd y ddisgyblaeth yn hwyl. Roeddwn yn hoffi bob dim amdano鈥.

Dywedodd Mike Dodd (Tiwtor MPCT):

鈥淩oedd yn bleser dysgu鈥檙 dosbarth hwn. Roedd yr ymgysylltiad trwy gydol y wers yn anhygoel, ac ar 么l cyflwyniad ar gymeriad, bu i ni gael ychydig o weithgareddau gan gynnwys iechyd a maeth, gwaith t卯m a hunanddisgyblaeth.听 Ar y cyfan, roedd y dysgwyr yn wych, bu i mi wir fwynhau eu dysgu ac edrychaf ymlaen at eu cefnogi nhw a鈥檙 ysgol ymhellach yn y Flwyddyn Newydd.鈥