天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfyngiadau cyflymder 20mya Bwcle - sesiynau gwybodaeth 

Published: 16/01/2023

20mph.jpgCyflwynir Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022, yn 2023.听 听 Golyga hyn y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn cael eu gostwng o 30mya i 20mya o fis Medi.听听

Cyn y cyfnod o gyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, cafodd wyth cymuned eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol, gyda therfynau cyflymder yn cael eu cyflwyno rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Mai 2022. Mae bron i 12 mis bellach ers eu cyflwyno ym Mwcle a鈥檙 cyffiniau.听 听听

Ymwybodol o bryderon a godwyd yn lleol, trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi bod yn digwydd am rai misoedd ac mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu gydag adolygiad a deall unrhyw bryderon am ffyrdd penodol.

Mae鈥檙 Cyngor wedi cytuno ar ystod o fesurau gyda Llywodraeth Cymru.听

  • 听Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o鈥檙 cynllun a鈥檙 meini prawf eithriadau ar gyfer y prif ffyrdd prifwythiennol.听
  • Arolwg adborth ar-lein ar gyfer pob aelwyd o fewn y terfynau cyflymder 20mya.听
  • Ymgyrch ymgysylltu ac addysg gan yr heddlu.听
  • Cynnal sesiynau gwybodaeth wyneb yn wyneb ar gyfer y gymuned leol.听

Cynhaliwyd arolwg i aelwydydd ar-lein. Derbyniodd 9,426 eiddo, sydd wedi鈥檜 lleoli o fewn ardaloedd y terfynau cyflymder 20mya, lythyr i gymryd rhan a chafwyd 2,712 ymateb.听 听听

Yn ogystal 芒鈥檙 arolwg ar-lein, mae nifer o sesiynau gwybodaeth wedi鈥檜 trefnu bellach ar gyfer cymunedau yn ardal leol Bwcle, i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru a sut mae angen ei gyflwyno i ffyrdd lleol.听 听Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddarparu adborth.听

Bydd Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol yn y sesiynau ac fe鈥檜 cynhelir trwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o鈥檙 sesiynau, bydd angen i drigolion rag-archebu eu lle ac mae dolen archebu ynghyd 芒 dyddiadau ac amseroedd听.听 听

Gall trigolion sydd angen cymorth gydag archebu lle, ymweld 芒 Chanolfan Gyswllt y Cyngor yn llyfrgell Bwcle.听听

Bydd adborth a geir trwy鈥檙 sesiynau gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i鈥檙 adborth a gafwyd trwy鈥檙 arolwg ar-lein a bydd yn helpu wrth gynnal adolygiad o ffyrdd lleol gan y Cyngor. Darperir yr adolygiad i Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflwyniad cenedlaethol 20mya.听 Cyhoeddir y canlyniadau ar wefan y Cyngor hefyd, cyn diwedd mis Mawrth 2023.听