天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yw鈥檙 Cyngor cyntaf yng ngogledd Cymru i lansio Banc Data

Published: 12/01/2023

FLINTSHIRE CONNECTS LOGO.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno 芒 Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy鈥檙 Banc Data Cenedlaethol.聽

Mae cardiau SIM a thalebau data am ddim ar gael o'n pum Canolfan Gysylltu* i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth.聽 Mae鈥檙 data wedi鈥檌 ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.听听

Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy鈥檔 helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd 芒 dyheadau鈥檙 Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol:

鈥淭rwy ddarparu cardiau SIM gyda data am ddim i aelwydydd incwm isel, byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar 么l yn ein byd digidol datblygedig. Mae鈥檙 timau yn ein Canolfannau Cysylltu ar gael i gefnogi trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd ac rwy鈥檔 annog unrhyw un sydd angen ein help i gysylltu 芒 ni.鈥

Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi鈥檙 bwlch digidol mewn cymunedau.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Tystiolaeth ac Ymgysylltu o Sefydliad Good Things, Emma Stone:聽

鈥淩ydym yn falch iawn bod Sir y Fflint wedi ymuno 芒鈥檔 rhwydwaith a鈥檙 Banc Data Cenedlaethol. Fel partner balch i Cwmpas a Chymunedau Digidol Cymru - gobeithiwn y bydd mwy o gynghorau a sefydliadau cymunedol yn dilyn esiampl Sir y Fflint ac yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 thlodi data a llenwi鈥檙 bwlch digidol mewn cymunedau.鈥澛犅

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y Banc Data Cenedlaethol a Sefydliad Good Things聽.听听

Am wybodaeth am y Banc Data gallwch gysylltu 芒鈥檆h Canolfan Gysylltu leol聽.

*Bwcle, Cei Connah, Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug