Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dadgymhwyso TAN1
  		Published: 18/06/2018
Gofynnir i鈥檙 Cabinet gymeradwyo鈥檙 sail ar gyfer ymateb cadarn i Lywodraeth 
Cymru鈥檔 cefnogi dadgymhwyso paragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1), 
pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin.
Mae鈥檙 cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddadgymhwyso paragraff 6.2 yn cael 
cefnogaeth lawn, a bydd Cyngor Sir y Fflint yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i 
sicrhau y symudir ymlaen ag adolygiad cynhwysfawr ac eang, cyn gynted 芒 
phosibl. 
Byddai hyn yn lleihau鈥檙 pwysau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 diffyg cyflenwad tir pum 
mlynedd, wrth ystyried ceisiadau ar gyfer datblygiad tai ar hap.    Byddai hyn 
yn cyfrannu dipyn at liniaru rhai or pwysau eithafol syn wynebur Cyngor ai 
gymunedau ar hyn o bryd, wrth orfod derbyn datblygiadau ar hap.
Tra bod Sir y Fflint ar hyn o bryd yn un o bedwar Awdurdod Cynllunio Lleol na 
all ddangos cyflenwad pum mlynedd, gan nad ydynt 芒 Chynllun Datblygu Lleol 
wedi鈥檌 fabwysiadu, o鈥檙 21 Awdurdod Cynllunio Lleol sydd 芒 Chynllun Datblygu 
Lleol, dim ond chwech sy鈥檔 gallu dangos cyflenwad tir pum mlynedd. Mae hyn yn 
dangos yn glir nad yw cael Cynllun Datblygu Lleol wedii fabwysiadu yn 
鈥榮icrhau鈥 cyflenwad pum mlynedd, ac yn fwy sylfaenol, mae rhywbeth yn amlwg o鈥檌 
le gyda鈥檙 dull cyfredol a gymerir gyda鈥檙 dull polisi TAN1.
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar 
gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淒iolch i鈥檙 drefn, mae鈥檙 materion a鈥檙 pwysau ar Awdurdodau Cynllunio Lleol a 
chymunedau wediu creu gan y polisi presennol bellach wediu cydnabod gan 
Lywodraeth Cymru.  Mae鈥檙 Cyngor yn cytuno gydar bwriad i ddadgymhwyso, ac yn 
ei gefnogi鈥檔 llawn, ond mae angen i hyn ddigwydd, nid yn unig am hyd yr alwad 
am dystiolaeth, ond hyd nes bydd canlyniad o鈥檙 adolygiad yn hysbys.   Bydd hyn 
yn lliniaru dipyn ar y pwysau rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, i dderbyn 
datblygiad ar hap yn ddiamod, fel y penderfyniad diweddar iawn i gymeradwyo鈥檙 
datblygiad o 186 uned ym Mhenymynydd, a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet.  
Mae鈥檙 Cyngor 芒 nifer o geisiadau ar hap ar y gweill, ac sydd eto i fod yn 
destun penderfyniad, i gael 1,037 o unedau eraill mewn rhannau amrywiol o鈥檙 
Sir.鈥
Bydd hyn hefyd yn galluogi鈥檙 Cyngor i gynnal ei ffocws o symud ymlaen 芒鈥檙 
Cynllun Datblygu Lleol, sydd mewn cam critigol o ran paratoi cynllun adneuo, 
lle mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor wneud penderfyniadau am ddyrannu safleoedd digonol a 
chynaliadwy i fodloni gofynion tair cynllun.