天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safleoedd dod â gwastraff ar gyfer ailgylchu

Published: 01/12/2022

Recycling bring sites.jpgYm mis Gorffennaf 2022, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor y cynnig i waredu safleoedd dod 芒 gwastraff ar gyfer ailgylchu ar draws y Sir.

Safleoedd dod 芒 gwastraff ar gyfer ailgylchu yw鈥檙 iglwau a鈥檙 cynwysyddion sydd wedi鈥檜 lleoli mewn meysydd parcio lleol a thafarndai er mwyn ailgylchu tecstilau a gwydr.听 Mae鈥檙 safleoedd dod 芒 gwastraff ar gyfer ailgylchu wedi bod yn weithredol ers blynyddoedd, ac ar un adeg, dyma oedd yr unig opsiwn ar gyfer ailgylchu i drigolion, yn ogystal 芒鈥檙 canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Mae cyflwyno casgliadau ymyl palmant wythnosol wedi gwneud ailgylchu鈥檔 llawer mwy cyfleus i drigolion ac mae鈥檙 gwasanaeth ar gael i bob aelwyd yn Sir y Fflint.听 听Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy鈥檔 defnyddio鈥檙 safleoedd dod 芒 gwastraff ar gyfer ailgylchu wedi gostwng, gan fod bellach modd ailgylchu ystod eang o ddeunydd gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth casglu ymyl palmant neu yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y Cyngor.听

Yn y cyfamser, mae鈥檙 contractwyr casglu gwydr wedi rhoi gwybod na fyddant yn gallu darparu gwasanaeth casglu gwydr mewn safleoedd dod 芒 gwastraff ar gyfer ailgylchu yng Nghymru mwyach, a byddant yn gwaredu鈥檙 banciau a鈥檙 iglwau yn yr wythnos nesaf.听 听Mae hyn yn golygu y bydd banciau gwydr yn cael eu gwaredu yn yr wythnos sy鈥檔 dechrau ar 5 Rhagfyr, sy鈥檔 llawer cynt na鈥檙 disgwyl.听听

Mae鈥檔 bwysig nodi na fydd hyn yn newid casgliadau gwydr ymyl palmant a bydd trigolion yn gallu parhau i fynd 芒鈥檜 gwydr i鈥檔 Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gan fod trefniadau gwahanol ar waith gyda chontractwyr eraill ar gyfer gwydr a gaiff ei gasglu fel hyn. Bydd banciau tecstilau'n parhau i fod yn weithredol am y tro.