Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Maes Gwern, Yr Wyddgrug
  		Published: 15/06/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cynigion i ddatblygu 48 cartref 
cymdeithasol, rhannu ecwiti newydd, a fydd 芒 rhent fforddiadwy, ym Maes Gwern, 
yr Wyddgrug, pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin.
 
Mae datblygu鈥檙 safle hwn yn flaenoriaeth strategol i鈥檙 Cyngor ac wedi cael 
cytundeb ymlaen llaw i鈥檞 gynnwys o fewn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 
(SHARP). Bydd hyn yn dod 芒 chyfanswm yr eiddo wedi鈥檜 cwblhau, wediu cymeradwyo 
mewn egwyddor neu wediu cymeradwyo gan y Cyngor, i 293.
 
Gofynnir i鈥檙 Cabinet hefyd gymeradwyo cyllid drwy fenthyca darbodus 
(fforddiadwy), i鈥檞 ddefnyddio i ariannu鈥檙 datblygiad arfaethedig o dai newydd y 
Cyngor, a chymeradwyor defnydd o gronfeydd wrth gefn rhannu ecwiti o 拢0.270m 
ar gyfer yr elfen fforddiadwy o鈥檙 cynllun hwn.
 
Rhoddwyd cymeradwyaeth y Cabinet yng Ngorffennaf 2017 i werthu tir ym Maes 
Gwern, yr Wyddgrug, i Wates Residential am brisiad marchnad agored annibynnol y 
cytunwyd arno.
 
Bydd y cynllun arfaethedig yn gweld datblygiad o 160 annedd breswyl newydd, yn 
dai, yn rhandai ac yn fyngalos. Bydd hwn yn gynllun cymysg yn cynnwys 112 eiddo 
(70%) wedi鈥檜 gwerthu ar gyfer gwerthiannau marchnad agored, ochr yn ochr 芒 48 
(30%) o ddarpariaeth tai fforddiadwy, a fydd yn cynnwys eiddor Cyngor, ac 
eiddo rhent fforddiadwy a phrynu fforddiadwy, yn unol 芒 pholis茂au a 
gweithdrefnau cynllunio fforddiadwy鈥檙 Cyngor.
 
Mae鈥檙 cynllun arfaethedig wedi鈥檌 ddylunio i adlewyrchu thema 鈥減entref gardd鈥, 
gydar pwyslais ar ryngweithio rhwng man cyhoeddus a phreifat, a chysylltedd 
cerddwyr a beicio rhagorol 芒 Chanol Tref yr Wyddgrug. Mae鈥檙 llwybrau cerdded a 
beicio arfaethedig wedi鈥檜 datblygu鈥檔 dilyn ymgynghoriad hir gyda grwpiau 
diddordeb budd-ddeiliad lleol, ac wedi鈥檜 hystyried ar sail lle bydd pobl yn 
symud iddynt, ac oddi yno, yn y datblygiad a thrwy鈥檙 datblygiad.
 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:
 
鈥淢ae hwn yn gam cyffrous arall yn ein taith i ddarparu eiddo syn fforddiadwy 
iw rhentu au prynu yn Sir y Fflint.  Yn ogystal 芒 Maes Gwern, mae鈥檙 Cyngor 
wedi cwblhau gwaith adeiladu ar Ffordd Alexandra yn yr Wyddgrug, lle mae 16 
eiddo newydd y Cyngor yn cael eu datblygu. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cyfleoedd 
cyfartal i bobl sy鈥檔 byw yn yr Wyddgrug i gael mynediad at eiddo Cyngor, eiddo 
rhent fforddiadwy ac eiddo rhannu ecwiti yn y dref.
 
鈥淏ydd Polisi Gosodiadau Lleol yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob cynllun a 
argymhellir, i sicrhau y gwneir y gorau o gyfleoedd i bobl leol.鈥