Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Terfynau cyflymder 20mya ym Mwcle
Published: 15/11/2022
Ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2022 bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Gwasanaethau Stryd a鈥檙 Strategaeth Gludiant Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes a Chynghorwyr Sir etholedig, sy鈥檔 cynrychioli pob un o鈥檙 wardiau sy鈥檔 cael eu heffeithio gan weithrediad diweddar y terfynau cyflymder 20mya, gael cyfarfod gyda Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters.听
Yn unol 芒鈥檙 pryderon sydd wedi cael eu codi鈥檔 lleol ym Mwcle, mae trafodaethau parhaus wedi bod rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru ers rhai misoedd.听 Yn gynharach eleni, ar gais y Cyngor, gwrandawodd Llywodraeth Cymru ar adborth trigolion lleol a chytunodd i gynnal adolygiad o鈥檙 cynllun a鈥檙 meini prawf eithriadau ar gyfer ffyrdd prifwythiennol.听听
Ers cyflwyno terfyn cyflymder 20mya ym Mwcle ar 28 Chwefror 2022, mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn gweithio鈥檔 ddiwyd er budd ei drigolion ac mae鈥檙 cyfarfod diweddaraf hwn gyda鈥檙 Dirprwy Weinidog yn arwydd o gam pellach ymlaen.听
Wrth ganiat谩u i鈥檙 Dirprwy Weinidog esbonio鈥檔 fwy manwl y rhesymeg a鈥檙 buddion y tu 么l i gyflwyno terfynau cyflymder cenedlaethol 20mya, rhoddodd y cyfarfod gyfle hefyd i gynghorwyr etholedig lleol roi adborth uniongyrchol i Lywodraeth Cymru am bryderon eu trigolion.听
Yn gynharach eleni gwnaethpwyd ymrwymiad y byddai鈥檙 Cyngor a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i ymgysylltu 芒 thrigolion sy鈥檔 byw yn y parthau terfynau 20mya a rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu safbwyntiau.听听
Yn y cyfarfod cytunwyd yn unfrydol ar nifer o gamau nesaf:听听
- Holiadur i gael adborth ar-lein gan bob aelwyd o fewn yr ardaloedd terfynau cyflymder 20mya cyn y Nadolig.
- Bydd ymgyrch ymgysylltu ac addysg gan yr heddlu yn cychwyn cyn y Nadolig.
- Bydd sesiynau gwybodaeth galw heibio wyneb yn wyneb i鈥檙 gymuned leol yn cael eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd.听
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes:
鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn ein bod yn cymryd camau i ddeall safbwyntiau a barn pob aelwyd sydd o fewn y parthau terfynau 20mya newydd.听 Bydd yr adborth a dderbyniwn yn help i fod yn sail i鈥檙 sesiynau gwybodaeth y byddwn yn eu cynnal yn y Flwyddyn Newydd.听 Byddwn hefyd yn rhoi鈥檙 canlyniadau i Lywodraeth Cymru i helpu i fod yn sail i鈥檞 hadolygiad o鈥檙 meini prawf eithriadau cyn cyflwyno鈥檙 cynlluniau鈥檔 llawn ym mis Medi nesaf.
鈥淏ydd llythyrau yn cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf yn gwahodd aelwydydd cymwys i gymryd rhan a byddwn yn annog pob aelwyd i dderbyn y cynnig a rhoi eu barn i ni.鈥
听