Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adfywio blaendraeth y Fflint
  		Published: 15/06/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint dderbyn yr adroddiad dichonolrwydd ar 
adfywiad Blaendraeth y Fflint, ac i symud ymlaen 芒 gwaith mwy manwl pan fyddant 
yn cyfarfod yn hwyrach ymlaen y mis hwn.
Gofynnir iddo hefyd dderbyn adroddiad Ymchwil a Datblygiad Celf Castell y 
Fflint, a datblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o鈥檌 
gwmpas.
Mae cam nesaf adfywiad y Fflint wedi鈥檌 gyflawni gan Gyngor Sir y Fflint a 
Chyngor Tref y Fflint, gydar ddau yn ffurfio Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda 
Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y 
Fflint:
鈥淢ae canlyniadau鈥檙 ddau adroddiad yn gyffrous ac yn dangos bod y cyfleuster 
arfaethedig yn gweddu鈥檔 dda gydag anghenion pobl leol ac ymwelwyr.  Mae pobl 
leol yn falch o hanes y dref ac maen nhw eisiau rhoi鈥檙 Fflint 鈥榓r y map鈥 鈥 
gallai gosodiad celf helpu i gyflawni hyn.  Mae Afon Dyfrdwy鈥檔 rhan allweddol o 
hanes y dref, gyda them芒u cryf yn dod i鈥檙 amlwg gyda 鈥榣le i fyw a gweithio鈥, 
鈥榣le i chwarae a lle i fod yn falch ohono ai werthfawrogi.鈥 
Dywedodd y Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y 
Fflint:
鈥淢ae鈥檙 adroddiad dichonoldeb yn cynnwys gwaith manwl ar gyfleuster ar y cyd, a 
chanolfan ymwelwyr yn gyfagos i鈥檙 castell yn cael ei rannu ai weithredu gan 
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Clwb Rygbi鈥檙 Fflint a Chlwb P锚l-
droed y Fflint. Mae鈥檙 adroddiad celf, ar 么l ymchwil ac ymgysylltiad 芒 
phreswylwyr lleol ac ysgolion, yn nodi them芒u allweddol ar gyfer darn mawr o 
gelf yng Nghastell y Fflint, neu oi gwmpas.
鈥淩ydym yn argymell cynnydd ar y ddau ddarn yma o waith, gan gydnabod mai dim 
ond un o鈥檙 partneriaid yw鈥檙 Cyngor, ac y bydd cynnydd yn amodol ar gytundeb y 
partner arall.鈥
Fel rhan o鈥檙 Memorandwm o Ddealltwriaeth, mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i 
ddod o hyd i gyllid yn 2018/19 i ariannu鈥檙 cam nesaf o鈥檙 ddau ddarn o waith.