Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun y Cyngor
  		Published: 18/06/2018
Mae disgwyl i Gynllun y Cyngor ar gyfer y deuddeg mis nesaf gael ei gymeradwyo 
gan y Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 19 Mehefin.
Maen rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi Cynllun blynyddol y Cyngor, sy鈥檔 
cynnwys nodau ac uchelgeisiaur Cyngor ar gyfer 2018/19.
Mae鈥檙 Cynllun eleni yn parhau gydar fformat newydd a gyflwynwyd y llynedd. 
Mae鈥檔 cynnwys manylion llawn ynglyn 芒 chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau鈥檙 
Cyngor. Maer fformat yn ei gwneud yn haws neidio i gynnwys penodol ar-lein, 
sydd hefyd yn golygu y gall gwybodaeth gael ei diweddarun hawdd i sicrhau ei 
bod yn gyfredol.
Mae鈥檙 chwe blaenoriaeth yn parhau鈥檙 un fath:
路 Cyngor Cefnogol
路 Cyngor Uchelgeisiol
路 Cyngor sy鈥檔 Dysgu
路 Cyngor Gwyrdd
路 Cyngor sy鈥檔 Cysylltu
路 Cyngor syn Gwasanaethu
Dan 鈥楥yngor Cefnogol鈥, mae ein blaenoriaethau鈥檔 cynnwys darparu cartrefi 
cymdeithasol a fforddiadwy newydd, parhau gyda鈥檔 haddewidion i adeiladu 99 o 
dai Cyngor a 22 o dai fforddiadwy newydd, cynyddu faint o eiddo syn cael ei 
reoli gan NEW Homes o 126 i 148 a darparu dewisiadau ar gyfer cynlluniau tai 
rhent isel arloesol, newydd ar gyfer pobl sengl.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda 
landlordiaid a thenantiaid i wella ansawdd tai鈥檙 sector preifat.  
Mae angen i ni wneud hyn er mwyn atal digartrefedd, cynnig dewisiadau tai mwy 
amrywiol a bodloni targed Llywodraeth Cymru ir holl dai cymdeithasol gyrraedd 
Safon Ansawdd Tai Cymru.
Blaenoriaeth arall yw parhau i gefnogi trigolion Sir y Fflint i reoli eu 
materion ariannol yn well, ac adeiladun benodol ar y gwaith da a wnaed gan 
swyddogion i leihau risgiau Credyd Cynhwysol a helpu trigolion i reolir 
newidiadau sylfaenol yma ir ffordd maent yn derbyn eu budd-daliadau. Mae鈥檔 
bwysig lleihau鈥檙 risg o dlodi yng nghartrefi Sir y Fflint a lleihau effaith 
cynnydd mewn costau tanwydd.
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y Ganolfan Cymorth Cynnar, a lansiwyd yn 
swyddogol y mis hwn gan Gomisiynydd Plant Cymru, yn rhan o waith bob dydd drwy 
weithio gyda phartneriaid a鈥檙 trydydd sector. Cafodd y cysyniad arloesol ei 
gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint ac mae wedi鈥檌 greu i 
ddarparu cymorth mwy amserol a chydlynol i deuluoedd ag anghenion mwy dwys.  
Roedd y lansiad yn dathlu cyflawniadau鈥檙 ganolfan hyd yma gan rannu straeon 
cadarnhaol am y ffyrdd rydym wedi cydweithio i gefnogi teuluoedd gyda dau neu 
fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Byddwn yn sicrhau bod pob gweithiwr yn deall ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau i 
fynd ir afael 芒 diogelu drwy godi ymwybyddiaeth a gweithio gyda phartneriaid i 
wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiogelu.
Fel 鈥楥yngor Uchelgeisiol鈥, byddwn yn cyfrannu at ddatblygu鈥檙 Fargen Twf 
Economaidd Ranbarthol ir camau cymeradwyo terfynol gyda Llywodraethau Cymru a 
Phrydain, gan gynnwys cytuno ar ddyraniadau cyllid a threfniadau llywodraethu 
ffurfiol.  Rydyn ni hefyd eisiau gwarchod a gwella nifer ac ansawdd y 
prentisiaethau, yn rhanbarthol a lleol, a datblygu ffordd fwy strategol o 
adfywio a chefnogi canol trefi gyda Chynghorau Tref.  Bydd hyn yn helpu i 
dyfu鈥檙 economi leol a rhanbarthol, datblygu cysylltiadau cludiant ar gyfer y 
rhanbarth a helpu i ategu a thyfu ein sector twristiaeth.
Ein huchelgeisiau fel 鈥楥yngor sy鈥檔 Dysgu鈥 yw darparu cyfleoedd dysgu effeithiol 
ac amgylcheddau dysgu o ansawdd ir holl ddisgyblion rhwng 3 a 18 oed i 
gyflawni eu potensial a chael cyflawniadau addysgol da.  Mae hyn yn bwysig i 
sicrhau bod y sgiliau cywir ganddynt i gael cyfleoedd gwaith modern.  Lle mae 
ysgolion angen cefnogaeth, byddwn yn darparu cymorth effeithiol i gyrraedd 
safonau addysgol da eto鈥檔 sydyn. 
Gan ein bod wedi ymrwymo i fod yn 鈥楪yngor Gwyrdd鈥, rydyn ni鈥檔 ceisio gwella a 
gwarchod adeiladau a strwythurau drwy lunio Strategaeth Treftadaeth Leol.  Mae 
angen i ni sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen am ddatblygu cynaliadwy ac 
amddiffyn yr amgylchedd naturiol a pharhau i ostwng ein hallyriadau carbon.
Byddwn yn defnyddio cyllid o grantiau i ategu ein blaenoriaeth i gyflwyno 
rhwydwaith cludiant cynaliadwy.  Rydyn ni鈥檔 blaenoriaethu gwaith atgyweirio a 
chynnal a chadw ar ein rhwydwaith cludiant iw wneud yn fwy cadarn, effeithlon 
a dibynadwy.
 
Yn bwysig iawn, byddwn yn cefnogi cymunedau sydd ar wah芒n i ddatblygu 
cynlluniau cludiant cynaliadwy ac arloesol, syn galluogi pobl i ddefnyddio 
gwasanaethau allweddol ac syn cysylltu cymunedau ar draws Sir y Fflint.
Fel 鈥楥yngor sy鈥檔 Cysylltu, byddwn yn ceisio gwella capasiti鈥檙 sector mentrau 
cymdeithasol a Modelau Cyflawni Amgen iw helpu i fod yn fwy hunangynhaliol, a 
fyddain eu galluogi i gyfrannu cymaint 芒 phosib a darparu buddion i 
gymunedau.  Byddwn hefyd yn sicrhau nad yw cymuned y lluoedd arfog a鈥檜 
teuluoedd dan anfantais wrth ddefnyddio Gwasanaethau鈥檙 Cyngor.  
Yn yr oes hon o doriadau economaidd, rhaid i ni allu ymdopi gyda llai a llai o 
adnoddau ac, fel Cyngor syn Gwasanaethu byddwn yn datblygu ac yn gweithredu 
cynllun ariannol pum mlynedd wedii adnewyddu, sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 cyllid, costau 
ac arbedion effeithlonrwydd disgwyliedig.  Byddwn yn parhau i fod yn 
uchelgeisiol a gweithredu鈥檔 effeithiol fel sefydliad llai a chyrraedd y safonau 
uchaf o ran gwasanaethau i gwsmeriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
 鈥淢ae鈥檙 Cynllun yma鈥檔 nodi ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau鈥檙 
preswylwyr. Rydyn ni鈥檔 parhau hefo rhai o鈥檔 blaenoriaethau, er enghraifft, 
ehangu darpariaeth cartrefi fforddiadwy i breswylwyr sydd mewn angen; gwarchod 
pobl rhag tlodi; galluogi pobl i fywn annibynnol a bywn dda gartref, gan 
osgoi achosion diangen o fynd ir ysbyty; gweithio gyda phartneriaid i gynnal 
twf economaidd a chael mwy o gyfleoedd am waith a datblygu isadeiledd cludiant 
y sir. 
 鈥淓r gwaethaf y caledi ariannol parhaus, rydyn ni鈥檔 dal wedi ymrwymo ac yn dal 
yn uchelgeisiol fel Cyngor i barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau lleol.
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac 
Asedau: 
 
 鈥淩ydyn ni鈥檔 bwriadu dal ati gydar gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc i 
gyflawni eu potensial, gwellar amgylchedd naturiol ac annog mynediad at fannau 
agored a mannau gwyrdd. Yr hyn sy鈥檔 bwysig ydi bod Sir y Fflint yn parhau i 
gyrraedd a rhagori ar ei thargedau ac yn gosod blaenoriaethau i gynnal 
perfformiad da鈥檙 Cyngor bob blwyddyn.鈥
 
Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Medi.