Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cod ar Gyflogaeth Foesegol mewn cadwyni cyflenwi
  		Published: 18/06/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu鈥檙 Cod ar Gyflogaeth Foesegol 
mewn Cadwyn Cyflenwi, mewn partneriaeth 芒鈥檙 undebau llafur cydnabyddedig pan 
fydd yn cyfarfod dydd Mawrth 19 Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu鈥檙 Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn 
Cadwyni Cyflenwi i wella鈥檙 arfer caffael yng Nghymru, a sicrhau mwy o fudd 
cymdeithasol o wariant cyhoeddus.  Anogir pob corff sector cyhoeddus i 
fabwysiadu鈥檙 Cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac 
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Sir y Fflint yn gorff cyhoeddus moesegol a chyfrifol ac yn cofleidior 
egwyddorion syn sail ir Cod.  Byddwn yn gweithredu鈥檙 cod hwn cyn belled ag y 
bo鈥檔 ymarferol ac yn fforddiadwy mewn partneriaeth 芒鈥檔 hundebau llafur 
cydnabyddedig lleol, ac rydym yn annog ein holl bartneriaid sector cyhoeddus a 
thrydydd sector, i fabwysiadur Cod hefyd.
鈥淔el sefydliad sy鈥檔 gyfrifol yn gymdeithasol, rydym yn ceisio defnyddio ein 
gwariant ar waith, nwyddau a gwasanaethau i hyrwyddor economi leol, a thrwy 
ddefnyddio buddion cymunedol, achosion a gefnogwn fel darparu hyfforddiant a 
phrentisiaethau.  Mae鈥檙 Cyngor yn croesawu鈥檙 ymrwymiadau o fewn y cod ymarfer, 
ar cyfleoedd maent yn eu cynrychioli, i sicrhau ymhellach fod ei wariant 
caffael yn cefnogi ei nodau ai werthoedd.
Mae鈥檙 Cod yman dod o fewn arferion a chredoau鈥檙 Cyngor ei hun, fel sefydliad 
sy鈥檔 gyfrifol yn gymdeithasol ac yn foesegol, ac wedi鈥檌 ymrwymo i fynd i鈥檙 
afael 芒:
? chaethwasiaeth fodern
? cosbrestru
? hunangyflogaeth ffug 
? defnydd annheg o gynlluniau ymbar茅l a chontractau dim oriau 
? talu鈥檙 cyflog byw
Maer Cyngor eisoes 芒 threfniadau yn eu lle drwy ei Reolau Gweithdrefn
Contract ac arferion caffael, i atal ei gyflenwyr rhag defnyddio llawer o鈥檙 
arferion hyn. Maer Cod yn estyniad ar arfer cyfredol, ond mae鈥檙 ymrwymiadau 
gofynnol o dan y Cod yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion y Cyngor ei hun.