Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Moderneiddio Ysgol - adolygiad ysgol ardal Brynffordd a Licswm
  		Published: 15/06/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried yr ymatebion o鈥檙 cyfnod ymgynghori 
statudol ar gyfer adolygiad ysgol Ardal Brynffordd a Licswm, a phenderfynu ar y 
camau nesaf ar gyfer unrhyw newid trefniadaeth ysgol yn yr ardal, yn ei 
gyfarfod ddydd Mawrth, 19 Mehefin.
 
Er ei bod wedi ceisio ffedereiddio gydag ysgol arall, nid oedd Ysgol Gynradd 
Gymunedol Licswm yn gallu sefydlu partner ffederal.  Felly, cytunodd y Cabinet 
i symud ymlaen at ymgynghoriad statudol ar newid trefniadaeth ysgolion yn 
Ionawr, gydar cynnig i uno ysgolion cynradd cymunedol Brynffordd a Licswm i 
greu un ysgol ardal. Maer ymgynghoriad, syn cael ei redeg ar y cyd 芒鈥檙 Cod 
Trefniadaeth Ysgolion statudol, wedi bod yn helaeth. Mae angen i鈥檙 adolygiad 
gael ei gwblhau nawr i ddod 芒r ansicrwydd i ben mewn cymunedau lleol. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: 
 
鈥淢ae adolygu dyfodol unrhyw ysgol yn emosiynol, ac mae hwn wedi bod yn 
adolygiad heriol gyda gwrthwynebiad cymunedol cryf yn Licswm i鈥檙 newid 
arfaethedig. Mae鈥檔 rhaid i ni fel Cyngor, fodd bynnag, gydbwyso sensitifrwydd o 
ymdeimlad cymunedol wrth sicrhau bod ein rhwydwaith ysgolion yn parhau i fod yn 
hyfyw ac yn gynaliadwy, ac mae鈥檔 hanfodol fod y Cyngor yn rhoi sylw i鈥檙 mater o 
adeiladau ysgol annigonol yn Ysgol Brynffordd. 
 
鈥淧a bynnag opsiwn a ffefrir gan y Cabinet, bydd angen model cynaliadwy o addysg 
gynradd o fewn y dwy gymuned, ac ar eu traws. Mae鈥檙 Cabinet yn rhoi ystyriaeth 
ofalus a meddylgar i鈥檙 opsiynau sydd wediu cyflwyno.