Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Sir y Fflint mewn Busnes 2018 鈥 Beth mae鈥檙 Fargen Twf yn ei olygu i Fusnes 鈥 blwyddyn yn ddiweddarach
  		Published: 13/06/2018
Cynhaliwyd digwyddiad busnes diweddaraf Cyngor Sir y Fflint yng Ngwesty Gwledig 
Llaneurgain yn ddiweddar. 
Croesawodd Sir y Fflint mewn Busnes grwp o uwch arweinwyr busnes a gafodd y 
cyfle i glywed gan yr Arglwydd Barry Jones, Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes 
2018, ynghyd 芒 Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett, Prif 
Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Andy Farrow a Dirprwy Brif 
Weithredwr (Lle) Cyngor Gorllewin Caer a Chaer, Charlie Seward. 
Gan groesawu pawb ir digwyddiad, dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr 
Arglwydd Barry Jones: 
Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Caer a Chaer yn chwilio am 
gyfraniadau ac adborth gan arweinwyr busnes. Rydym eisiau ymgysylltu 芒 chi mewn 
sgwrs ac ymgynghoriad.  Chi yw cynhyrchwyr economaidd y rhanbarth hwn sef yr 
unig economi trawsffiniol ym Mhrydain sydd 芒 gweithgarwch gweithgynhyrchu gwych 
鈥 mae mwy na 32% on GDP mewn gweithgynhyrchu - syn llawer uwch nag unman 
arall yn y wlad.鈥 
Yna cyflwynodd y siaradwyr y cyd-destun strategol sydd wrth wraidd y Cais, yn 
cynnwys dyheadau rhanbarthol Gogledd Cymru a dyheadau lleol Sir y Fflint.
Siaradodd Colin Everett mewn manylder am Gais Bargen Twf Gogledd Cymru, 
dywedodd:
Mae gennym becyn o gynlluniau uchelgeisiol yr ydym yn ceisio cyllid ar eu 
cyfer gan y ddwy Lywodraeth. Mae seilwaith a gwasanaethau cludiant yn allwedd a 
fydd yn datgloi ein potensial. 
Yna cafwyd trafodaeth fywiog a gynhyrchodd awgrymiadau a syniadau gwych gan 
arweinwyr busnes. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen am arloesi a chysylltedd 
digidol, gan ddefnyddio鈥檙 afon fel dyfrffordd fewndirol yn gysylltiedig 芒 
chludiant y m么r a鈥檙 posibilrwydd o gynyddu cludiant awyr. 
Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu 
Economaidd:
Rydym yn gwerthfawrogir holl fewnbwn gan arweinwyr busnes ac mae wedi darparu 
safbwynt clir i ni ar bethau.   Rwyn credu, gydar holl waith cydlynol syn 
cael ei wneud mewn partneriaeth, rydym yn y sefyllfa orau erioed i gael y 
buddsoddiad yr ydym ei angen. 
Am fwy o wybodaeth, neu i gael copi o鈥檙 dogfennau cyflwyniad, neu i ddarganfod 
mwy am ddigwyddiadau Sir y Fflint mewn Busnes, cysylltwch 芒 
businessweek@flintshire.gov.uk.