Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Maen amser Jambori Mehefin!
  		Published: 14/06/2018
Yn ddiweddar, cynhaliodd T卯m Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint eu sioe gerdd 
Jambori tri diwrnod ar gyfer plant Blwyddyn 1 a 2.  
Roedd tua 1,800 o blant Sir y Fflint yn bresennol yn ystod y tri diwrnod a 
chomisiynwyd y cyflwynydd S4C a鈥檙 diddanwr Martyn Geraint i lwyfannu chwe 
pherfformiad. 
Cynhaliwyd y Jambori yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, ac fe hoffai鈥檙 t卯m ddiolch 
i Gyngor y Dref am eu cefnogaeth barhaus.
Dechreuodd y paratoadau yn gynnar ym mis Mai, a bu鈥檙 plant yn brysur yn dysgu 
caneuon er mwyn iddynt allu canu鈥檔 Gymraeg gyda Martyn Geraint.
Mae Martyn Geraint wedi meithrin enw da fel un o ddiddanwyr mwyaf blaenllaw 
Cymru gyda gallu naturiol i ysbrydoli plant. 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
Ynghyd 芒 bod yn llawn hwyl, mae Jambori yn cynorthwyo i wella sgiliau 
dwyieithrwydd y plant ac yn darparu dimensiwn ychwanegol i wersi Cymraeg drwy 
gynnig profiad dysgu cadarnhaol gan ddefnyddio cerddoriaeth.