Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lansiad Swyddogol y Ganolfan Cymorth Cynnar
  		Published: 11/06/2018
Roedd Cyngor Sir y Fflint yn falch iawn o groesawu Sally Holland, Comisiynydd 
Plant Cymru, i lansio Canolfan Cymorth Cynnar Sir y Fflint yn ddiweddar.
Cafodd y cysyniad arloesol ei gomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y 
Fflint ac mae wedi鈥檌 greu i ddarparu cymorth mwy amserol a chydlynol i 
deuluoedd ag anghenion mwy dwys.  Roedd y lansiad yn dathlu cyflawniadau鈥檙 
ganolfan hyd yma gan rannu straeon cadarnhaol am y ffyrdd rydym wedi cydweithio 
i gefnogi teuluoedd gyda dau neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. 
Yn y lansiad, dywedodd Sally Holland:
 鈥淢ae plant a鈥檜 teuluoedd wedi gorfod gweddu i鈥檙 gwasanaethau sydd ar gael am 
ormod o amser, yn hytrach na bod gwasanaethau鈥檔 ymateb iw hanghenion nhw. 
 鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint a鈥檌 bartneriaid wedi dechrau ymateb yn fwy hyblyg i 
anghenion teuluoedd, a chydweithio mwy i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth 
maen nhw ei angen ar yr adegau iawn 鈥 nid pan mae eu problemau鈥檔 mynd yn 
鈥榙digon drwg鈥 i fod yn gymwys i gael help. 
 鈥淩ydw i鈥檔 gobeithio rwan y bydd plant a theuluoedd yn cael y cymorth cynnar 
cywir maen nhw ei angen.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淢ae hwn wir yn ddull sydd ar flaen y gad o ran cydweithio gyda phartneriaid 
amlasiantaeth i gefnogi rhai on teuluoedd mwyaf bregus.
 鈥淵 prif nod yw bod sefydliadaun cydweithio i sicrhau bod plant, pobl ifanc a 
theuluoedd yn gallu cael gwybodaeth a chyngor am gymorth cynnar perthnasol.  
Bydd y Ganolfan Cymorth Cynnar yn cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau ymdopi a 
mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau cyn iddynt waethygu.鈥
Mae鈥檙 Ganolfan Cymorth Cynnar yn canolbwyntio鈥檔 helaeth ar sefydliadau鈥檔 
cydweithio i gyrraedd plant a theuluoedd a fyddai鈥檔 elwa o gymorth cynnar.