Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gorfodaeth Amgylcheddol yn Sir y Fflint
  		Published: 07/06/2018
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu鈥檙 Amgylchedd yng Nghyngor Sir y Fflint 
wneud argymhelliad i鈥檙 Cabinet ar drefniant gweithgareddau gorfodi amgylcheddol 
yn y sir yn y dyfodol ac adolygu perfformiad y contract gyda Kingdom Ltd ar hyn 
o bryd.
Bydd yr adroddiad yn amlinellu鈥檙 dull o ymdrin 芒鈥檙 holl faterion sy鈥檔 ymwneud 芒 
gorfodaeth amgylcheddol, gan gynnwys taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, 
gwastraff ar yr ochr a鈥檙 effaith mae鈥檙 gwaith yn ei gael ar lendid strydoedd a 
dangosyddion perfformiad eraill.
Mae sbwriel yn broblem i bob tref a chymuned yn y wlad ac roedd gwaith i gasglu 
sbwriel ar strydoedd a mannau agored yn Sir y Fflint cyn Ionawr 2016 yn costio 
mwy na 拢300,000 y flwyddyn. Ar ben y gost a鈥檙 effaith weledol mae sbwriel yn ei 
chael ar yr amgylchedd, mae mwy a mwy o dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cael 
effaith sylweddol ar yr economi leol ai fod yn cynyddu mathau eraill o 
ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ym mis Ionawr 2016, mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint bolisi dim goddefgarwch ar 
gyfer pob trosedd a oedd yn ymwneud 芒 gollwng sbwriel.  Cyflwynwyd Kingdom i 
ymgymryd 芒 gwaith gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol ar 4 Gorffennaf 2016 
i gefnogi鈥檙 t卯m gorfodi mewnol. Cadwyd y t卯m mewnol i fynd i鈥檙 afael 芒 materion 
eraill fel ymchwilio i dipio anghyfreithlon a gorfodaeth mewn perthynas 芒 
gwastraff ar yr ochr, a ddechreuodd yn gynharach eleni. Mae鈥檙 contract gyda 
Kingdom yn darparu swyddogion gorfodi i batrolio a rhoi Rhybuddion Cosb 
Benodedig i aelodau o鈥檙 cyhoedd am ollwng sbwriel neu droseddau baw cwn.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
 鈥淕an fod y trefniant dros dro gyda Kingdom yn dod i ben, mae angen i ni 
benderfynu sut y byddwn yn parhau ac mae nifer o opsiynau iw hystyried, a phob 
un or rheini gyda manteision ac anfanteision. Mae profiad o ganol y trefi wedi 
dangos bod dull mwy cadarn o orfodi wedi bod o fudd i drefi o ran glendid.
Yr opsiynau yw:
1. Hysbysebu a dyrannu un contract ar gyfer yr holl weithgareddau gorfodi 
amgylcheddol lefel isel - gan gynnwys parcio ceir. Dyma鈥檙 opsiwn a argymhellwyd 
gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffur Amgylchedd ym mis Medi 2017. Roedd y cynnig 
yn cynnwys proses apelio annibynnol a fyddai鈥檔 cael ei chynnal gan Uwch Swyddog 
o fewn y Cyngor.
2. Cael gwared 芒鈥檙 trefniant cyfredol a chynnal yr holl weithgareddau gorfodi 
drwy鈥檙 gwasanaeth mewnol gyda staff presennol.
3. Ehangu鈥檙 ddarpariaeth fewnol drwy recriwtio neu weithio鈥檔 rhanbarthol i 
ddarparu鈥檙 un lefel o waith 芒r contractwr ar hyn o bryd.