Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Croeso Cynnes yn Wepre Court
  		Published: 29/05/2018
Mae nifer o aelwydydd yn Wepre Court, Cei Connah nawr yn mwynhau buddion ystod 
o gynlluniau arbed ynni newydd sydd wedi eu gosod yn eu heiddo鈥檔 ddiweddar. 
Mae Cyngor Sir Y Fflint, mewn cydweithrediad 芒 nifer o bartneriaid, wedi rheoli 
trefniadau gosod o nifer o fesurau yn cynnwys: cysylltiad nwy newydd i eiddo 
gyda chefnogaeth 鈥榃ales and West Utilities鈥, gosod insiwleiddiad atig gyda 
chefnogaeth Wall-Lag a gosod boeler nwy a system gwres canolog gyda chefnogaeth 
Cronfa Cartrefi Clyd, Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) a Cyngor Sir Y Fflint.
Bydd 10 aelwyd sy鈥檔 cynnwys tenantiaid cyngor sir, tenantiaid y sector breifat 
a pherchnogion preswyl  yn elwa ac mae鈥檙 preswylwyr wrth eu boddau o gael 
cartref cynnes yn ogystal ag arbedion posib i鈥檞 biliau tanwydd.
Mae Mr. Howard Shirt, o Wepre Court, yn hynod o hapus gyda鈥檙 gwaith a wnaed a 
dywedodd; 
 鈥淢ae鈥檙 gwahaniaeth a wnaed tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau oedd gen i.鈥  
Roedd Mr. Shirt wedi plesio gydar ffordd y cafodd yr holl broses o osod y 
gwaith ei wneud a鈥檙 gefnogaeth a鈥檙 arweiniad oedd ar gael i breswylwyr. 
Y perchnogion hyn oedd ymysg y cyntaf i elwa o鈥檙 gefnogaeth gan raglen Cronfa 
Cartrefi Clyd syn cael ei reoli gan Ddatrysiadau Gwres Fforddiadwy, Cwmni 
Buddiannau Cymunedol, a lansiwyd yn Sir y Fflint ym mis Ionawr 2018.  
Dywedodd Jeremy Nesbitt, Rheolwr Gyfarwyddwr Datrysiadau Gwres Fforddiadwy: 
 鈥淢ae datrys materion yn ymwneud 芒 Thlodi Tanwydd yn parhau i herio nifer o鈥檔 
budd-ddeiliaid ac mae鈥檙 adborth rydym wedi ei dderbyn yn barod yn rhoi 
tystiolaeth o sut fydd y Gronfa Cartrefi Clyd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol 
i filoedd o gartrefi ar draws y wlad.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Is-Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer 
Tai;
 鈥淢ae鈥檔 bleser gweld sut mae Cyngor Sir Y Fflint, a鈥檌 bartneriaid, yn gwella 
cartrefi pobl ac wedi gwella bywydau preswylwyr Wepre Court.  Gobeithiwn 
gefnogi llawer mwy o aelwydydd trwy鈥檙 Gronfa Cartrefi Clyd dros y 3 mlynedd 
nesaf.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Cartrefi Clyd ac i ddarganfod os ydych chi鈥檔 
gymwys ar gyfer cefnogaeth cysylltwch 芒: 0800 954 0658 neu 
healthyhomeshp@flintshire.gov.uk