Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Penwythnos Celf Morol
Published: 30/05/2018
Cynhelir penwythnos o gelf o ddydd Sadwrn, 2 Mehefin i ddydd Sul, 3 Mehefin yng
Nghanolfan Dreftadaeth Kathleen & May, Dock Road, Cei Connah.
Mae sefydliad Quay Watermen鈥檚 Association (QWA) a Cheidwaid yr Arfordir i
Gyngor Sir Y Fflint wedi dod at eu gilydd i gyflwyno gwaith celf hen a newydd i
bawb eu mwynhau. Dyma ddigwyddiad y cyntaf o鈥檌 fath ar gyfer arfordir Sir y
Fflint.
Nod y penwythnos wedi鈥檌 ariannu gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri fel rhan o
brosiect 鈥淩hoi鈥檙 Cei yn 么l yng Nghei Connah鈥 yw defnyddio celf i ailgysylltu
pobl 芒鈥檙 afon a鈥檌 threftadaeth. Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal rhwng
9.30am a 5pm bob dydd.
Ar ddydd Sadwrn, 2 Mehefin dewch i weld Ian Murray y cerflunydd llif gadwyn
wrth ei waith ar y cei ac ar ddydd Sul, 3 Mehefin bydd gan y rhai ifanc gyfle i
beintio 芒 cherigos gyda Ronnie Rocks ac adeiladu cwch gyda鈥檙 Wow Factor.
Mae鈥檙 penwythnos yn gyfle sydd ddim yn digwydd yn aml i weld arddangosfa o
waith yr artist o Fwcle, y diweddar James Bentley wnaeth beintio llawer iawn ar
hyd yr Afon Dyfrdwy a golygfeydd ar hyd yr hen reilffordd o Fwcle i Cei Connah.
Mae ei beintiadau yn rhoi golwg unigryw o dreftadaeth ddiwydiannol a morol Sir
y Fflint.
Bydd cyfle hefyd ar y ddau ddiwrnod i greu campweithiau sialc eich hunain o
olygfan Oriel Glan Yr Afon.
Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad:
鈥淢ae鈥檔 addo bod yn benwythnos anhygoel o gelf, hwyl a dathliad on hanes a
threftadaeth leol a byddwn yn annog pobl i ddod ynghyd i fwynhaur lleoliad
glan yr afon ryfeddol.
鈥淢ae Cyngor Sir Y Fflint ar QWA yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni鈥檙
prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda Cheidwaid yr Arfordir yn cefnogi鈥檙
gwaith o gyflawni鈥檙 prosiect ynghyd 芒 swyddog prosiect y QWA.鈥
Gall unrhyw artist lleol a hoffai arddangos eu gwaith gysylltu 芒鈥檙 QWA ar 01244
532352 am ragor o fanylion.
Mae croeso i bawb ond rhaid i blant ddod yng nghwmni oedolyn.