Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gofyn i鈥檙 gymuned helpu i leddfu pwysau parcio ar Barc Gwledig
  		Published: 08/06/2018
Gyda鈥檙 haf ar droed, mae pobl allan yn mwynhau鈥檙 awyr agored. 
Parc Gwledig Wepre yng Nghei Connah yw un o鈥檙 cyrchfannau arbennig hynny lle 
mae pobl yn dod i gerdded ar hyd glan yr afon a thrwy鈥檙 coetir, mwynhau鈥檙 
golygfeydd a鈥檙 bywyd gwyllt ac ymweld 芒 Chastell Ewlo, yn enwedig ar ddiwrnodau 
braf a chynnes.  
Mae nifer ymwelwyr i鈥檙 Parc wedi cynyddu鈥檔 sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf, 
sy鈥檔 golygu bod ardaloedd parcio dynodedig a mannau parcio ceir ychwanegol yn 
aml dan bwysau mawr ar yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn. 
Meddai鈥檙 Cyng Carolyn Thomas;
鈥淢ae Parc Gwledig Wepre yn lle pwysig ir gymuned leol a thu hwnt ac maen nhw 
wrth eu bodd ag ef, ac maen hyfryd bod cynifer o bobl a grwpiau defnyddwyr yn 
mwynhau Parc Gwledig Wepre.
鈥淥s bydd y meysydd parcio yn llawn, gofynnwn i ymwelwyr ystyried preswylwyr 
lleol a diogelwch y ffyrdd drwy barcio yn gyfrifol yn hen Safle Maes Parcio 
Somerfield ar waelod Wepre Drive, tua hanner milltir i ffwrdd, neu ystyried 
cerdded neu feicio.鈥 
鈥淢ae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos gwerth mannau gwyrdd i iechyd a lles 
pobl, rydym am i bobl allu mwynhau鈥檙 manteision hyn, ond heb gael effaith 
negyddol ar eraill. Mae鈥檙 Cyngor yn edrych ar opsiynau tymor byr, tymor canolig 
a thymor hir i reoli pwysau parcio ym Mharc Gwledig Wepre yn y dyfodol, er budd 
preswylwyr lleol ac ymwelwyr.鈥