Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Datgelu Hanes y Gweithfeydd Dur
  		Published: 22/05/2018
Fe fydd arddangosfa newydd sbon yn ymwneud 芒鈥檙 gweithfeydd dur yn cael ei 
datgelu ddydd Iau, 24 Mai am 2.00pm yn y Quay Watermen鈥檚 Association (QWA) 
Canolfan Dreftadaeth y Kathleen and May, Dock Road, Cei Connah.
 
Fel rhan o gynllun 鈥楻hoi鈥檙 Cei yn 么l yng Nghei Connah鈥 Cronfa Dreftadaeth y 
Loteri a sicrhawyd gan y QWA, mae Dur Tata yn cyfrannu bwrdd hanes dur 3m x 1m 
gyda lluniau o鈥檙 cludo dur ar longau ar Afon Dyfrdwy.  
 
Mae cyn weithwyr dur wedi eu gwahodd i ddod draw i gwrdd 芒 hen gydweithwyr a 
staff newydd wrth i Ddur Tata ymuno 芒鈥檙 QWA a Chyngor Sir y Fflint i ddarparur 
dehongliad mwyaf cyfredol o dreftadaeth ddur Sir y Fflint i ymwelwyr a phobl 
leol.
 
Dywedodd Cadeirydd y QWA Paula Ellis:
 
鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i Ddur Tata am gyfrannu鈥檙 panel gwybodaeth hwn ac am 
gefnogi鈥檙 QWA yn ein hymdrechion treftadaeth a chymunedol.
 
鈥淢ae Canolfan Dreftadaeth y QWA yn edrych dros yr afon a鈥檙 gweithfeydd dur ac 
felly dymar lleoliad gorau yn Sir y Fflint i ganfod mwy am Dreftadaeth 
Ddiwydiannol y sir wrth ymlacio gyda phaned o goffi a darn o gacen yn ein caffi 
bendigedig.
 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac 
aelod lleol:
 
鈥淒yma鈥檙 tro cyntaf i ni allu arddangos gwybodaeth am wreiddiau鈥檙 diwydiant dur 
ar Lannau Dyfrdwy ac rydym yn falch iawn o gefnogir QWA  Tata wrth iddynt 
ddarparu鈥檙 cyswllt hwn in cymunedau ei fwynhau drwy Brosiect Cronfa 
Dreftadaeth y Loteri an Gwasanaeth Cefn Gwlad.鈥
 
鈥淒wi鈥檔 siwr y bydd nifer o weithwyr dur presennol a chyn weithwyr dur, pobl 
leol ac ymwelwyr syn defnyddio Llwybr Arfordir Cymru wrth eu bodd gyda鈥檙 panel 
a鈥檙 amlygrwydd mae鈥檔 ei roi i dreftadaeth ddiwydiannol falch yr ardal.鈥 
Dywedodd Bill Duckworth, Rheolwr Safle Dur Tata: 
鈥淢ae鈥檙 diwydiant dur yng Nglannau Dyfrdwy wedi newid yn sylweddol dros y 
blynyddoedd, ond yr hyn sydd wedi bod yn gyson ywr cysylltiad cryf gydag Afon 
Dyfrdwy ar r么l y mae wedi ei chwarae yn y diwydiant.
 
鈥淢ae Dur Tata yn Shotton yn hynod o falch o allu cefnogi Canolfan Dreftadaeth y 
QWA drwy gyfrannur bwrdd hanesyddol a fydd yn helpu cenedlaethaur dyfodol i 
ddeall beth arferai ddigwydd yma ar r么l bwysig mae wedi chwarae yn llunior 
gymuned hon.
 
Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd cyfres newydd o baneli hanesyddol wedi eu 
lleoli ar hyd glannaur Afon Dyfrdwy yn cael eu hychwanegu a fydd yn ymdrin 芒 
masnach, pysgota, treftadaeth a bywyd gwyllt. Cadwch olwg am y Penwythnos 
Celfyddydau Morwrol ar Fehefin 2 a 3 a chyfres o weithgareddau ar 么l ysgol a 
fydd yn dod ag Afon Dyfrdwy yn 么l ir gymuned.
 
Am fwy o fanylion cysylltwch 芒 Mike Taylor Ceidwad Arfordirol ar 07711 438127 
neu鈥檙 QWA ar 01244 818029.