Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweinidog yn ymweld â Llys Jasmine
  		Published: 21/05/2018
Gwnaeth Huw Irranca Davies AC, Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol 
Llywodraeth Cymru ymweld 芒 Llys Jasmine yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, sef 
cynllun gofal ychwanegol a dementia arloesol a agorodd yn haf 2013. 
Fe鈥檌 adeiladwyd gan Anwyl Construction mewn partneriaeth 芒 Chymdeithas Tai 
Wales & West a Chyngor Sir Y Fflint, ac mae Llys Jasmine yn darparu 61 rhandy a 
dau fyngalo gofal ychwanegol. 
Mae pob rhandy yn y cyfadeilad 拢8.3m wedi鈥檌 ddylunio i addasu i anghenion 
newidiol preswylwyr, gyda rhandai dementia penodol wedi鈥檜 gosod o amgylch iard 
canolog ar y llawr gwaelod uchaf gan roi amgylchedd diogel i gynnal 
annibyniaeth. Gyda gofal a chefnogaeth 24 awr ar y safle, a system galw gofal 
o鈥檙 radd flaenaf, mae wedi鈥檌 anelu at breswylwyr 65 oed a hyn.
Dywedodd Huw Irranca Davies AC, Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol 
Llywodraeth Cymru;
 
鈥淩oedd yn bleser mawr ymweld 芒 Darpariaeth Gofal Ychwanegol Llys Jasmine yn yr 
Wyddgrug, sy鈥檔 rhan o fuddsoddiad parhaus gan Gyngor Sir Y Fflint, Llywodraeth 
Cymru a phartneriaid mewn llety 芒 chymorth a byw鈥檔 annibynnol i bobl hyn.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai: 
鈥淢ae cynlluniau gofal ychwanegol yn galluogi pobl hyn i gael dewis o dai 
arbenigol ac maen nhw鈥檔 gwneud gwahaniaeth real i fywydau pobl, gan wella 
darpariaeth gofal i bobl hyn yn y Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau 
Cymdeithasol: 
鈥淢ae ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Y Fflint i ofalu am bobl sy鈥檔 byw gyda 
dementia yn parhau i adeiladu ar lwyddiant cynlluniau gofal ychwanegol fel Llys 
Jasmine a Llys Eleanor yn Shotton wrth i Llys Raddington yn y Fflint nes谩u at 
gael ei gwblhau a gyda gwaith yn mynd rhagddo bellach ar gynllun gofal 
ychwanegol newydd yn Nhreffynnon.鈥 
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr dros Tai Wales & West: 
鈥淢ae Llys Jasmine wedi bod ar agor ers bron i bum mlynedd ac mae鈥檔 esiampl dda 
o sut y gall gweithio mewn partneriaeth wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. 
Mae gan breswylwyr fynediad 24 awr i ofal a chymorth ar y safle, ynghyd 芒 llety 
o ansawdd uchel wedi鈥檌 adeiladu鈥檔 bwrpasol, sy鈥檔 caniat谩u iddynt gynnal eu 
hannibyniaeth. Mae鈥檔 llwyddiant ysgubol i Sir y Fflint, drwy greu effaith, nid 
yn unig ar ein preswylwyr, ond cymuned gyfan yr Wyddgrug hefyd.