Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adroddiad Ansawdd Aer
  		Published: 18/05/2018
Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint nodi cynnwys Adroddiad Ansawdd 
Aer Awdurdod Cyfun Gogledd Cymru pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis.
Mae ymrwymiad cyfreithiol ar bob Cyngor i fonitro ac asesu ansawdd aer y Sir, 
yn 么l cyfarwyddyd Rhan IV Deddf yr Amgylchedd 1995. 
Mae鈥檙 adroddiad yn cynnig asesiad manwl o ansawdd aer y rhanbarth.  Yn benodol 
ar gyfer Sir y Fflint, prif ffynhonnell llygredd yw allyriadau traffig o brif 
ffyrdd sy鈥檔 cysylltu Lloegr gyda gweddill Gogledd Cymru.
Ar 么l ystyried pob llygrydd ac adolygu unrhyw ddatblygiadau newydd yn y 
rhanbarth a allai gael effaith negyddol ar ansawdd aer (fel safleoedd tirlenwi, 
chwareli, safleoedd diwydiannol ac ati), daethpwyd i鈥檙 casgliad y dylai 
awdurdodau lleol barhau i gynnal eu rhaglenni monitro. Ni chafodd unrhyw 
Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer eu datgan yng Ngogledd Cymru, ac o ganlyniad nid 
oes angen unrhyw gamau pellach.
Yn gyffredinol, ystyrir fod ansawdd aer yn dda yn y rhanbarth, serch hynny gan 
nad oes trothwy diogel i Nitrogen Deuocsid a Mater Gronynnol ar hyn o bryd, 
maen ddymunol i gadw lefelau llygredd ar lefel mor isel ag sy鈥檔 ymarferol yn 
rhesymol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae rheoli ansawdd aer yn flaenoriaeth iechyd y cyhoedd. Rhaid i ni gydweithio 
i wellar aer y mae pobl yn ei anadlu. Mae ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 
wedi ymrwymo i gynnal ansawdd aer a dylai hwn fod yn gyfle i godi proffil y 
maes gwaith hwn a cheisio gwella ansawdd ein haer ymhellach.  Dylai鈥檙 Cyngor 
a鈥檌 bartneriaid ymdrechu tuag at leihau lefelau llygredd, gan y bydd hyn yn 
gwella canlyniadau iechyd ar gyfer trigolion Sir y Fflint.鈥