Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Busnes NEW Homes
  		Published: 17/05/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint roi ei gymeradwyaeth i Gynllun Busnes 
Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes) 2018/2027 a鈥檙 broses gymeradwyo 
arfaethedig ar gyfer benthyciadau newydd i NEW Homes ar gyfer datblygu neu 
brynu cartrefi fforddiadwy yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 22 Mai.
Mae NEW Homes yn gwmni tai y mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arno, a 
sefydlwyd ym mis Ebrill 2014 i gynyddu nifer, ansawdd a dewis tai fforddiadwy 
sydd ar gael yn y sir ar gyfer y rhai hynny nad ydynt efallai鈥檔 gymwys am dai 
cymdeithasol, ond fod mynediad i鈥檙 farchnad dai yn anfforddiadwy iddynt neu ei 
bod yn anodd iddynt gael mynediad iddo.
Yn ogystal, mae NEW Homes yn darparu gwasanaeth proffesiynol i landlordiaid fel 
asiant rheoli fel modd o gynyddu argaeledd tai fforddiadwy o safon.
Mae鈥檙 Cynllun Busnes yn amlinellu elfennau allweddol cynllun twf arfaethedig y 
cwmni i gynyddu nifer yr eiddo a reolir ac y maent yn berchen arnynt fel tai 
fforddiadwy dros y ddeng mlynedd nesaf, mae hyn yn cynnwys cartrefi i鈥檞 
datblygu drwy鈥檙 Rhaglen Dai ac Adfywio Strategol (SHARP), eiddo Adran 106, lle 
mae datblygwyr tai yn diwallu eu hymrwymiad tai fforddiadwy ac eiddo posibl yn 
cael eu caffael drwy fenthyca yn erbyn asedau presennol.
Mae The Walks, cynllun adeiladu newydd a ddatblygwyd dan SHARP yn cynnwys 62 o 
dai a fflatiau fforddiadwy, a bydd y cyfan ohonynt yn cael eu trosglwyddo i NEW 
Homes erbyn diwedd mis Mai 2018. Mae cynigion hefyd yn cael eu datblygu ar 
gyfer 39 eiddo arall a fydd yn cael eu darparu drwy SHARP. 
Mae NEW Homes ar hyn o bryd wedi darparu 37 o gartrefi dan Gytundebau Adran 
106, ac mae disgwyl i 28 o gartrefi eraill gael eu codi dros y 5 mlynedd nesaf. 
Er bod nifer y gosodiadau a reolir wedi bod yn tyfu鈥檔 gymharol araf, mae NEW 
Homes wedi llwyddo i gadw mwyafrif y landlordiaid unwaith y byddant wedi ymuno.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;
 鈥淢ae NEW Homes wrthi鈥檔 cynyddu鈥檙 dewis o dai ar gyfer y rhai hynny nad ydynt 
efallai鈥檔 gymwys i gael tai cymdeithasol ond fod y farchnad dai鈥檔 anfforddiadwy 
iddynt neu鈥檔 anodd cael mynediad iddi. Rwyf wrth fy modd fod cynllun arloesol 
SHARP y Cyngor wedi rhyddhau cymaint o gartrefi fforddiadwy ers iddo ddechrau 
yn 2015.
 鈥淢ae鈥檙 cynllun busnes diwygiedig wedi cael ei gefnogi gan arbenigedd 
annibynnol ac ym mis Mawrth 2018 cafodd ei gymeradwyo gan NEW Homes fel cynllun 
twf y gellir ei gyflawni ai gynnal dros y ddeng mlynedd nesaf.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai:
 鈥淢ae perthynas waith gadarnhaol iawn wedi datblygu rhwng y Cyngor, NEW Homes a 
phartneriaid adeiladu. Mae hyn wedi rhyddhau eiddo ar renti fforddiadwy, gan 
helpu pobl leol i aros yn eu cymunedau lleol eu hunain drwy Gytundebau Adran 
106.
 鈥淢ae hefyd yn bwysig iawn i nodi fod gosodiadau wedi eu rheoli yn cynyddu鈥檙 
ystod o ddewisiadau o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae NEW Homes a鈥檙 Cyngor yn 
datblygu dewisiadau ar y cyd o ran sut y gall y gosodiadau wedi eu rheoli hyn 
weithio鈥檔 fwy effeithiol a thyfu.鈥