Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Connah鈥檚 Quay High School modernisation
Published: 17/05/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad yn ei gyfarfod ddydd
Mawrth, 22 Mai yn gofyn am ei gefnogaeth i symud ymlaen i ail gam y gwaith
moderneiddio syn digwydd yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ar hyn o bryd.
Bydd cefnogaeth y Cabinet yn galluogi Keir Construction i wneud gwaith dylunio
manwl tra bydd Cam 1 y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen.
Dechreuodd Kier Construction ar gam cyntaf y gwaith moderneiddio yn Ysgol
Uwchradd Cei Connah yn gynnar yn 2018 ac mae鈥檙 prosiect yn symud yn ei flaen yn
dda. Maer gwaith presennol yn canolbwyntio ar gael gwared ar y blociau Dylunio
a Thechnoleg a Chelf a Thechnoleg Bwyd a chodi adeilad deulawr yn eu lle a fydd
yn cynnwys ardal weinyddu, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio
ac ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu, swyddfeydd, toiledau, lifft, grisiau
ac ystafell offer. Rhagwelir y bydd gwaith ar y cam hwn wedi鈥檌 gwblhau ym mis
Rhagfyr 2018 ac mae鈥檔 ffurfio rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif
y Llywodraeth.
Mae鈥檙 cynigion ar gyfer Cam 2 yn cynnwys ailfodelu er mwyn darparu ardal
weinyddu newydd a dymchwel y bloc gweinyddu presennol; lle parcio ychwanegol,
uwchraddior neuadd chwaraeon ar arwyneb allanol (gan gynnwys to newydd ar
gyfer y Neuadd Chwaraeon) a phecynnau cytunedig o waith adnewyddu llai.
Mae parhau gyda buddsoddiad cyfalaf yn Ysgol Cei Connah yn un o nifer o
brosiectau sydd wedi eu cynnwys yn y Rhaglen Amlinellol Strategol a gyflwynodd
y Cyngor ar gyfer Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo鈥檙 Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer
Band B mewn egwyddor ac ystyriwyd papur yn amlinellu鈥檙 rhaglen fuddsoddi ar
gyfer y dyfodol gan y Cabinet ym mis Ionawr 2018.
Yn amodol ar y gymeradwyaeth briodol, bydd y gwaith dylunio鈥檔 digwydd o fis
Mehefin hyd fis Rhagfyr 2018 gyda Cham 2 y gwaith adeiladu yn digwydd ym mis
Ionawr 2019.
Meddai Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
Rydw i鈥檔 falch dros ben fod y rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei
Connah yn gwneud cynnydd mor dda gydar cynigion ar gyfer Cam 2 y prosiect yn
adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel ar
gyfer ein dysgwyr. Bydd y datblygiadau yn yr ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau
dysgu sydd ar gael yng Nghei Connah.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae鈥檙 bloc dysgu newydd yn cael ei adeiladu i safon uchel a bydd yn darparu
cyfleusterau o鈥檙 radd flaenaf a鈥檙 cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer dysgwyr a鈥檙
gymuned ehangach ac rwy鈥檔 hyderus y bydd cynnydd gwych yn dal i gael ei wneud
dros y misoedd i ddod.鈥