Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith Newydd
  		Published: 17/05/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir Y Fflint ystyried adroddiad yn ceisio ei 
gymeradwyaeth i wneud contract gyda Kier Construction i adeiladu Canolfan Ddydd 
Gwasanaethau Cymdeithasol Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith Newydd ar gyn 
gampws Ysgol Uwchradd John Summers yn Queensferry, yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 
22 Mai. 
Byddai鈥檙 datblygiad arfaethedig yn cymryd lle鈥檙 ganolfan gwasanaethau dydd 
bresennol, Glanrafon, yn Queensferry, ac yn cynnig gwasanaeth dydd a chyfleoedd 
gwaith a ddarperir gan bartner Model Darparu Amgen y Cyngor, Hft, sef elusen 
genedlaethol sy鈥檔 darparu gwasanaethau i unigolion ag anableddau dysgu. 
Cymeradwywyd achos busnes llawn ar gyfer y cyfleuster newydd ac fe gytunwyd ar 
gyllid drwy Raglen Gyfalaf y Cyngor ym mis Chwefror 2017. Cymeradwywyd caniat芒d 
cynllunio ar 7 Chwefror 2018. 
Mae gwasanaeth y Ganolfan Ddydd Anableddau Dysgu a Chyfleodd Gwaith yn darparu 
gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd, mewn amgylcheddau canolfan ddydd a 
gwaith, i dros 150 o unigolion ag anableddau dysgu. Mae hefyd yn cynnig 
seibiant i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr. Mae鈥檙 
gwasanaeth yn cefnogi unigolion i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth 
ac i wneud cysylltiadau cymdeithasol a ffrindiau. 
Bydd y cyfleuster newydd arfaethedig yn darparu technoleg,  cysur a hygyrchedd 
gwell. Bydd darpariaeth hefyd i wasanaethau eraill y Cyngor a鈥檙 gymuned 
ehangach ddefnyddior cyfleusterau, lle bo hynny鈥檔 briodol. 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol; 
 鈥淩wyf yn falch iawn bod Hft eisoes wedi dechrau cynllunio i godi arian ar 
gyfer y ganolfan newydd, i gynorthwyo 芒 chael offer ar gyfer yr ardaloedd 
arbenigol, megis gardd synhwyraidd. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir 
Y Fflint ac Ymddiriedolaeth HF i adeiladu ar ein perthynas gref a chadarnhaol, 
a gwneud ein gorau glas i ddarparu cyfleuster o鈥檙 radd flaenaf i鈥檔 defnyddwyr 
gwasanaeth, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr a鈥檙 gymuned ehangach.鈥