Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd
  		Published: 17/05/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyo mabwysiadu 
Canllawiau Cynllunio Atodol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ffurfiol 
pan fydd yn cyfarfod ar Ddydd Mawrth 22 Mai.
Gofynnir ir Cabinet wneud hyn fel y bydd pwyslais yn cael ei roi arnynt fel 
ystyriaeth gynllunio o bwys wrth ystyried ymholiadau cynllunio, ceisiadau ac 
apeliadau perthnasol.
Mae鈥檙 CCA wedi鈥檜 paratoi ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a 
Wrecsam ac maent wedi bod yn destun ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol. 
Maent yn cael eu hargymell ar gyfer eu mabwysiadu gan bob un o鈥檙 tri Awdurdod 
Cynllunio Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae鈥檙 canllawiau wedi eu drafftio fel eu bod yn hawdd iw darllen, gyda 
lluniau a darluniau addas, er hynny maent yn parhau i ddarparu canllawiau 
cadarn. Y bwriad yw i gynnal a gwella ansawdd datblygiad yn ac o amgylch yr 
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac i sicrhau fod yr Ardal o Harddwch 
Naturiol Eithriadol yn ystyriaeth ddylunio yn y cyfnodau cynharaf o ddylunio a 
datblygu.鈥