Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  		Published: 17/05/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried ymateb i Adolygiad Seneddol o 
Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan mae鈥檔 cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis.
Mae鈥檙 galw am iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu鈥檔 ddramatig dros yr 20 
mlynedd diwethaf, gydag anghenion newidiol, disgwyliadau cynyddol a ffurfiau 
newydd o driniaeth a gofal yn ymestyn y ddarpariaeth. Mae hyn wedi creu her 
sylweddol i wasanaethau cyhoeddus a chafodd yr Adolygiad Seneddol hwn o Iechyd 
a Gofal Cymdeithasol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i nodi sut y gall 
gwasanaethau cyhoeddus ragweld a delio gyda鈥檙 galwadau newydd a wynebir 
ganddynt. 
Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2018 gyda deng awgrym i 
Lywodraeth Cymru, sef:
1. Un system ddi-dor i Gymru 鈥 gofal wedi鈥檌 drefnu o amgylch yr unigolyn a 
theulu鈥檙 unigolyn, mor agos 芒 phosib at y cartref 
2. Y Nod Pedwarplyg i Bawb 鈥 ategu鈥檙 weledigaeth ar gyfer 鈥渦n System鈥 gyda 
phedwar nod: cydweithio i gyflawni canlyniadau clir, gwell iechyd a llesiant, 
gweithlu sy鈥檔 derbyn gofal a gwerth gwell am arian. 
3. Modelau gofal di-dor newydd a dewr 鈥 egwyddorion cenedlaethol, darparu鈥檔 
lleol 
4. Rhoi鈥檙 rheolaeth yn nwylo鈥檙 bobl - cryfhau ymgysylltiad unigolion a鈥檙 
gymuned 
5. Lle gwych i weithio ynddo 鈥 cysoni鈥檙 gweithlu ar frys 
6. System Iechyd a Gofal sy鈥檔 dysgu trwy鈥檙 amser 
7. Defnyddio arloesed, a chyflymu datblygiadau mewn technoleg a seilwaith 
8. Cysoni dyluniad y system i gyflawni canlyniadau 鈥 dylunio鈥檙 system yn well i 
sicrhau cynnydd cyflymach 
9. Y gallu i drawsnewid, arweinyddiaeth ddeinamig, cydweithredu digynsail - 
cynyddu鈥檙 gallu i lywio trawsnewid ar lefel genedlaethol  
10. Atebolrwydd, cynnydd a chyflymder 鈥 cyhoeddi cynnydd yn erbyn y weledigaeth 
Daeth i鈥檙 casgliad bod ar Gymru angen system iechyd a gofal gwahanol, ac na 
ddylai unrhyw un danamcanu maint yr her sydd o鈥檔 blaenau. 
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn croesawu鈥檙 Adolygiad Seneddol yma ar gefnogaeth y mae wedii 
ddarparu o ran ein gweledigaeth a chyfeiriad strategol. Mae鈥檙 argymhellion yn 
yr Adolygiad yn cadarnhau ein cyfeiriad ac mae wedi rhoi hyder o鈥檙 newydd i ni 
o ran ein cynlluniau at y dyfodol鈥.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 
(BPRhGC), ac fel aelod ohono, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn iddo gyflwyno 
ymateb yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y rhanbarth ac i nodi cryfderau o ran 
bwrw ymlaen 芒 modelau di-dor o iechyd, gofal a lles. 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Jones:
鈥淓r mwyn paratoi鈥檙 ymateb hwn cynhaliodd BPRhGC gyfres o weithdai cynllunio, ac 
er bod rhai enghreifftiau ardderchog o arfer da wedi cael eu nodi, gan gynnwys 
yr estyniad arfaethedig ar Gartref Preswyl Marleyfield House yn Sir y Fflint, 
byddem yn cytuno gydar Adolygiad Seneddol bod cyflymder y newid yn araf. 
鈥淓r mwyn cyflymu鈥檙 broses, mae BPRhGC wedi cyflwyno awgrymiadau rydym yn 
gobeithio eu trafod gyda鈥檙 Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol pan fydd 
yn bresennol yng nghyfarfod BPRHGC yn fuan mis Gorffennaf.鈥