Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyhoeddi rhagor o ddyddiadau ar gyfer Clybiau Menter Sir y Fflint 
  		Published: 16/05/2018
Mae rhagor o ddyddiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer dau Glwb Menter yn Sir y 
Fflint. 
Gall mynychu un o鈥檙 Clybiau yma roi cymorth i entrepreneur addawol gyrraedd y 
cam nesaf - boed chi newydd gychwyn arni neu os ydych chin fusnes sefydledig 
sydd yn chwilio am syniadau newydd ac ysbrydoliaeth. 
Mae鈥檙 Clybiau yn rhad ac am ddim ac mae鈥檔 gwahodd siaradwyr a chynghorwyr o 
asiantaethau eraill. Maer sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn 
gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth a syniadau! 
Dywedodd un person sydd wedi symud i鈥檙 ardal yn ddiweddar ac a fynychodd y Clwb 
Menter gwreiddiol yn Shotton: 鈥淢ae鈥檙 clwb yma wedi rhoi llawer o gymorth ac 
anogaeth i mi, mae wedi bod yn wych.  Mae aelodau eraill yn rhannu syniadau ac 
yn rhoi adborth adeiladol mewn amgylchedd diogel.    I mi sydd wedi symud ir 
ardal yn ddiweddar, mae wedi bod yn gyfle i mi wneud ffrindiau da hefyd.鈥
Mae鈥檙 Clwb yn dal i gwrdd bob pythefnos yn Ystafell Gloucester yng Nghanolfan 
Fenter Glannau Dyfrdwy rhwng 10:30am a 12:30pm.  Y dyddiadau nesaf ydi 18 Mai, 
1, 15 a 29 Mehefin a 13 a 27 Gorffennaf.  
Cynhaliodd y Clwb Menter mwyaf newydd ei gyfarfod cyntaf yn Nhreffynnon ddydd 
Mercher, 9 Mai rhwng 1:30pm a 3:30pm yn Kim Inspire, The Hub, Park Lane.  Roedd 
yn canolbwyntio ar gefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio a chafodd y gweithdai 
eu cyflwyno gan Sandra Donoghue 鈥淢ingle for Business鈥, y mae ei phrofiad o 
weithio gyda grwp Shotton wedi bod yn llwyddiannus iawn.  
Y dyddiadau nesaf y bydd Clwb Menter Treffynnon yn cwrdd ydi: 23 Mai, 6 a 20 
Mehefin, 4 a 18 Gorffennaf.
Os hoffech gofrestru, cysylltwch 芒 Beverly Moseley ar 
beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01244 846090.