Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Pythefnos Gofal Maeth 2018
  		Published: 09/05/2018
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch blynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil 
maethu ac i ddangos sut mae gofal maeth yn newid bywydau. Dyma鈥檙 ymgyrch 
recriwtio gofal maeth mwyaf yn y DU.
Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth 2018 o 14 i 27 Mai.
Pythefnos Gofal Maeth yw鈥檙 ymgyrch fwyaf yn y DU i godi ymwybyddiaeth o ofal 
maeth ac mae鈥檔 cael ei drefnu gan yr elusen faethu flaenllaw, Y Rhwydwaith 
Maethu. Mae鈥檙 ymgyrch yn dangos ymrwymiad, brwdfrydedd ac ymroddiad gofalwyr 
maeth.
Mae angen 7,000 o deuluoedd maethu newydd i ofalu am amryw o blant dros y 12 
mis nesaf yn unig ac mae鈥檙 angen mwyaf am ofalwyr maeth ar gyfer plant hyn, 
grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant anabl.
Mae gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint yn ymuno鈥檙 ymgyrch eleni i dynnu sylw 
at yr angen i ofalwyr maeth i ofalu am frodyr a chwiorydd lleol.  Dros Ogledd 
Cymru yn 2016/17 roedd 86 grwpiau o frodyr a chwiorydd angen gofal maeth. Roedd 
mwyafrif or rhain yn grwpiau o 2 yn frodyr neu chwiorydd, ond gyda 4 grwpiau 
mawr o 5 o blant mae angen mwy o ofalwyr maeth gyda 2 ystafell wely sb芒r.
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Cyngor Sir y Fflint:
Roedd wythdeg grwpiau o frodyr a chwiorydd angen gofal maeth yn Sir y Fflint 
llynedd (2017/18). Yn bennaf roedd y rhain yn grwpiau o ddau a oedd yn gallu 
aros gydai gilydd. Gall brodyr a chwiorydd rannu ystafelloedd gwely yn dibynnu 
ar eu hoedran, ond rydym yn chwilio am bobl gyda chartref gwag ac yn gallu 
cynnig lle, amser a chariad ir plant hynny. Mae plant hyn yn aml wedi treulio 
eu bywydau yn edrych ar  么l eu brodyr a鈥檜 chwiorydd iau; mae bod mewn gofal 
maeth yn gadael iddyn nhw fod yn blant unwaith eto.
Mae Kim wedi bod yn ofalwr maeth am 18 mlynedd, ei phrofiad maeth cyntaf gyda 
brawd a chwaer. Ers hynny mae hi鈥檔 cofio maethu o leiaf 3 neu fwy o grwpiau o 
frodyr a chwiorydd:
鈥淐yrhaeddodd dau frawd ifanc ar fy stepen drws. Pan wnaethon nhw gyrraedd  
roedd yr hynaf yn gafael yn dynn am ysgwydd ei frawd bach ac yn dweud wrtho fod 
popeth yn mynd i fod yn iawn.  Mae maethu yn debyg i wneud jig-so...heb y 
llun.  Mae cael brawd a chwaer yn helpu i roir darnau gydai gilydd ac i 
lenwir bylchau. Rydych angen amynedd ac amser. Yn aml byddai鈥檙 brawd neu 
chwaer hyn yn cofio pethau nad oedd yr ieuengaf yn ei gofio. Weithiau byddai鈥檙 
plant yn rhan o deulu llawer mwy ac yn aml byddem yn eu cyfarfod yn y parc. 
Roedd 5 o blant mewn un teulu yn agos iawn mewn oed. Dwi wrth fy modd gyda鈥檙 
hyn a wnaf. Hyd yn oed ar 么l 18 o flynyddoedd dwi dal yn cael boddhad mawr 
ohono, dwi wrth fy modd gyda her.鈥
Mae Donna wedi bod yn maethu ers 2 flynedd. 
鈥淲rth ystyried maethu am y tro cyntaf roeddem yn meddwl maethu un plentyn 0-5 
oed. Yna dyma nin mynd ar gwrs 3 diwrnod ac ynan penderfynu y gallwn helpu 
unrhyw blant, dim ots beth yw eu hoedran.  Gofynnwyd a oedden nin gallu cymryd 
brawd a chwaer. Yn meddwl am blant ein hunain roedd hin amhosib meddwl y 
gallwn ni wahanu brawd a chwaer.  Yr oll oedd angen ei wneud oedd cymryd 
diddordeb, gwrando, dangos iddyn nhw lwybrau gwahanol, dewisiadau ac i roi 
cyfleoedd iddyn nhw sefyll allan.  Rwan maen nhw鈥檔 cymryd rhan mewn chwaraeon, 
cerddoriaeth ac mae eu hyder yn amlwg i bawb. Dwi mor falch ou cyflawniadau.  
Dwi ddim yn siwr y byddan nhw鈥檔 cyflawni neun datblygu fel hyn pe baent wedi 
eu gwahanu.
Dywedodd person ifanc mewn gofal maeth yn Sir y Fflint:
鈥淵 peth gorau am fod mewn gofal maeth yw gwybod bod fy chwaer yn ddiogel, yn 
cael ei charu a鈥檌 gofalu amdani.
Mae Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal noson wybodaeth ar ddydd Iau, 24 
Mai am 7pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i unrhyw un sydd 芒 diddordeb 
canfod mwy am fod yn ofalwr maeth gyda鈥檙 Cyngor lleol. Ffoniwch 01352 701965 
neu ewch i www.flintshirefostering.org.uk.