天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr Treffynnon

Published: 08/05/2018

Mae Cyngor Tref Treffynnon yn bwriadu gadael i gerbydau ddefnyddio Stryd Fawr Treffynnon am gyfnod prawf o wyth mis. Mae hyn yn deillio o waith dros y misoedd diwethaf, pan gwblhaodd y Cyngor Tref waith dwys a chynnal ymgynghoriad gydar gymuned fusnes leol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint a Grwp Busnes Treffynnon. Tuag at ddiwedd y cyfnod prawf, bydd pleidlais gymunedol yn cael ei chynnal i ymgynghori鈥檔 swyddogol gyda phreswylwyr, busnesau a defnyddwyr i werthuso eu barn am y cynllun. Pasiodd Cyngor Tref Treffynnon benderfyniad i dreialu caniat谩u cerbydau ar y Stryd Fawr a chynnal pleidlais gymunedol yn ddiweddarach, ac mae鈥檙 Cynghorwyr Sir lleol yn llwyr gefnogi Cyngor Tref Treffynnon, Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 gymuned fusnes wrth ymgymryd 芒鈥檙 broses hon. Mae鈥檙 cyfnod prawf yn cychwyn ar 8 Mai a bydd yn cael ei fonitron agos i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd ar palmentydd, gan gynnwys adolygu effeithiolrwydd y cynllun a鈥檌 effaith ar fusnesau lleol a鈥檙 gymuned ehangach. Bydd mesurau gorfodi yn cael eu gweithredu o ddechrau鈥檙 cyfnod prawf ymlaen, gyda chais gan y Cyngor bod pawb syn defnyddior stryd yn gwneud hynny mewn modd briodol wrth barchur rheoliadau a鈥檙 mesurau rheoli traffig. Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, ac ar 么l ystyried barn y preswylwyr yn ofalus, bydd y grwp partneriaeth yn ceisio nawdd i gymryd y camau angenrheidiol i weithredu cynllun parhaol yn y dyfodol, yn amodol ar grant llwyddiannus a chais am nawdd.