Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobr Prentisiaeth
  		Published: 03/05/2018
Cafodd hyfforddeion y Cyngor yn Academi Sir y Fflint, sy鈥檔 gweithio tuag at eu 
prentisiaethau neu sydd wedi eu cwblhaun llwyddiannus, eu llongyfarch mewn 
seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy yn ddiweddar.
Bob blwyddyn caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y 
Cyngor.   Ar hyn o bryd, mae 70 o brentisiaid yn cael eu hyfforddi mewn 
lleoliadau ar draws y sefydliad.   
Mae鈥檙 prentisiaid fel arfer yn mynd i Goleg Cambria am ddyddiau astudio dros 
ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael eu hyfforddi a鈥檜 hasesu yn y 
gweithle. 
Tri enillydd y gwobrau hyglod yw:
Mark Hanson - enillydd Hyfforddai Goraur Flwyddyn Sir y Fflint ac yn ail orau, 
Alice Foster a Rhian Chitty.
Emma Popa 鈥 Hyfforddai Sylfaen y Flwyddyn Sir y Fflint, ac yn ail orau Georgia 
Bedford a Ruby Clarke
Lucinda Dodd 鈥 Gwobr Anrhydedd 
Derbyniodd yr enillwyr eu tlysau gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin 
Everett, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton.
Mae Marc yn brentis Gyfrifydd ac yn byw yn Nhreffynnon.  Wrth gyflwyno鈥檙 wobr 
iddo, meddai Cynghorydd Shotton:
鈥淢ae Mark yn rhagori yn ei weithle ac yn y coleg. Mae o鈥檙 math o weithiwr y 
byddai pob rheolwr yn hoffi eu cael ar eu t卯m - dymunol, diwyd a hyderus. Mae 
ganddo鈥檙 gallu a鈥檙 agwedd gywir i wneud cynnydd yn ei yrfa. Mae鈥檔 weithiwr 
neilltuol ac yn fyfyriwr neilltuol. Mae鈥檔 wir gaffaeliad i鈥檙 Cyngor.鈥
Mae Emma o Shotton yn brentis lyfrgellydd. Wrth gyflwyno鈥檙 wobr iddi, meddai 
Cynghorydd Shotton:
鈥 Mae Emma yn gweithio鈥檔 galed, yn gadarnhaol, yn frwdfrydig ac yn fodel r么l 
rhagorol. Mae ganddi鈥檙  awch i weithio, yr agwedd a鈥檙 gallu i fynd yn bell yn 
ei gyrfa. Maer ffaith y gofynnwyd iddi hi gyflwyno ei gwaith mewn cynhadledd 
genedlaethol a hithaun dal i fod yn brentis yn ysbrydoliaeth.  Mae Cyngor Sir 
y Fflint yn falch iawn fod Emma鈥檔 rhan o鈥檙 t卯m - mae hi鈥檔 gaffaeliad i鈥檙 Cyngor 
ac i Aura.
Cyflwynwyd y Wobr Anrhydedd i Lucinda Dodd sy鈥檔 byw yng Nghaer.   Cyflwynir y 
wobr hon i rywun sydd wedi dangos gwir addewid yn eu r么l fel gwas cyhoeddus; 
rhywun sydd wedi ymdrechu鈥檔 gyson i wneud eu gorau yn ystod eu prentisiaeth ac 
wedi dangos penderfyniad ac awch am ddysgu a gweithio; rhywun sydd wedi 
gweithio fel llysgennad dros brentisiaid a鈥檙 Cyngor a rhywun yr ydym i gyd yn 
eu parchu ac yn eu hedmygun fawr.
Meddai Colin Everett, y Prif Weithredwr:
鈥淩ydym yn falch iawn o鈥檔 cynllun prentisiaid yn Sir y Fflint, sy鈥檔 cael ei 
gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda鈥檔 
partneriaeth gyda Choleg Cambria.  Mae ein cyfradd llwyddiant yn rhagorol gyda 
98% o鈥檔 hyfforddeion yn ennill swyddi naill ai gyda鈥檙 Cyngor neu鈥檔 allanol ac 
eraill yn mynd ymlaen i鈥檙 Brifysgol i barhau 芒鈥檜 hastudiaethau. 
Meddai Steve Jackson, Dirprwy Brif Weithredwr Coleg Cambria, a fynychodd y 
digwyddiad: 
鈥淩ydym yn falch dros ben fod y digwyddiad mawreddog hwn yn cael ei gynnal yn 
ein Coleg ni. Mae鈥檙 coleg yn gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 Cyngor i ddarparu rhaglen 
brentisiaeth sy鈥檔 caniat谩u i bobl o bob oed ennill cymwysterau ar yr un pryd a 
meithrin sgiliau a phrofiad ymarferol yn y gweithle.  Mae鈥檔 braf gweld agwedd 
mor gadarnhaol sydd gan y Cyngor tuag at hyfforddiant a鈥檜 bod wedi llwyddo i 
benodi a datblygu prentisiaid mor anhygoel o dalentog.鈥
Mae鈥檙 Cyngor yn awr yn dymuno recriwtio 20 o bobl i ymuno 芒 rhaglen 
brentisiaethau 2018.   Mae鈥檙 ficrowefan ar waith ac yn cynnwys gwybodaeth am yr 
holl brentisiaethau.  Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i 
www.flintshire.gov.uk/trainees