Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi mwy o raglenni gwella priffyrdd
  		Published: 01/05/2018
Ar 么l rhyddhau rhaglen ail-wynebu 拢1miliwn+ yr wythnos ddiwethaf, mae dwy 
raglen arall ar gyfer gwella ffyrdd wedi eu cadarnhau.  
 
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gweithio ar raglen Wyneb Priffyrdd yn 
Mehefin/Gorffennaf fydd yn helpu i wella cyflwr ffyrdd mwyaf gwledig y Sir.    
Bydd y rhaglen sy鈥檔 werth tua 拢0.35 miliwn yn gweld gwelliant i bron 20 o 
ffyrdd gwledig yn bennaf ar draws Sir y Fflint.   Bydd rhaglen o drwsio 
cerbytffyrdd hefyd yn dechrau cyn y gwaith trin wyneb ffyrdd yn Mehefin.
Mae鈥檙 Cyngor hefyd yn bwriadu cynnal tri chynllun mawr gwella priffyrdd ar rai 
o鈥檙 ffyrdd prysuraf yn y Sir, er mwyn gwella鈥檙 ffyrdd yn dilyn y difrod a 
achoswyd gan dywydd gwael y gaeaf.   Bydd y cynlluniau prif ffyrdd hyn yn 
cynnwys ailadeiladu wyneb y ffordd, trwsio cyrbau a throedffyrdd a newid y 
marciau ffordd presennol.  Bydd goleuadau stryd hefyd yn cael eu diweddaru ar y 
ffyrdd os bydd angen. 
Mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 werth 拢0.5 miliwn i gyd wedi鈥檌 drefnu ar gyfer y lleoliadau 
canlynol: 
A 549 Gallt Wylfa yn Mynydd Isa
B 5129 Ffordd Caer yn Sandycroft
A 548 Ffordd Caer yn y Fflint
Mae鈥檙 ddau brosiect yma yn cael ei hariannu o gyllideb cynnal a chadw priffyrdd 
y Cyngor ei hun gyda chefnogaeth arian grant gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 dod 芒 
chyfanswm lefel buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol yn agos at 拢2 filiwn 
yn y flwyddyn ariannol bresennol.  
Bydd prosiect terfynol i wneud gwaith atgyweirio priffyrdd y rhwydwaith ffyrdd 
gwledig yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau i ddod yn dilyn archwiliadau a 
gynhelir i asesu cyflwr holl ffyrdd gan swyddogion yn Sir y Fflint.   Mae鈥檙 
archwiliadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael y 
sylw maent ei angen. 
Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor ddydd Llun 30 Ebrill 
2018 a bwriedir i鈥檙 holl waith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2018.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o allu cyhoeddi dau brosiect atgyweirio priffyrdd arall fydd 
o fudd i鈥檙 holl gymunedau yn y Sir.   Bydd y prosiectau鈥檔 helpu i wella rhai o 
goridorau ffyrdd o bwys strategol sy鈥檔 allweddol i fywydau bob dydd llawer o 
drigolion a helpu i wella rhai o鈥檔 ffyrdd a lonydd gwledig sydd yr un mor 
bwysig i鈥檙 trigolion hynny sy鈥檔 byw yn yr ardaloedd hyn.  Mae pedwar criw yn 
parhau i lenwi tyllau yn y ffyrdd ledled y Sir.鈥