Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adolygiad o鈥檙 Rhwydwaith Bysiau 
  		Published: 24/04/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal adolygiad o wasanaethau bws 芒 chymhorthdal y 
Sir dros y misoedd nesaf i sefydlu rhwydwaith cludiant cynaliadwy, teg ac 
effeithiol ar gyfer y dyfodol. 
Ar hyn o bryd, mae mwy na 55 o lwybrau bws yn gweithredu ar draws Sir y Fflint 
bob dydd. Mae鈥檙 teithiau hyn yn cael eu gweithredu gan gwmn茂au bws preifat, 
sydd naill ai鈥檔 rhedeg gwasanaethau bws masnachol neu lwybrau a gaiff 
gymhorthdal gan Gyngor Sir y Fflint. Mae llwybrau masnachol wedi鈥檜 gweithredu 
gan gwmn茂au bws preifat yn unig heb unrhyw fewnbwn gan yr awdurdod lleol o ran 
cyfeiriad llwybrau na chefnogaeth ariannol, a llwybrau 芒 chymhorthdal yw鈥檙 rhai 
a gaiff eu hariannu鈥檔 llwyr, neu鈥檔 rhannol, gan y Cyngor.  Mae tua 60% o 
wasanaethau bws yn Sir y Fflint yn cael eu gweithredu鈥檔 fasnachol ac mae 40% 芒 
chymhorthdal. Mae鈥檙 cymhorthdal hwn yn dod i gyfanswm o 拢1,068,352 y flwyddyn 
(gan gynnwys Cyllid Grant Cynhaliaeth Gwasanaeth Bws Lywodraeth Cymru).
Nid oes dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau bws lleol, na 
chyllido unrhyw fath o gludiant cyhoeddus, ond mae dyletswydd statudol ar y 
Cyngor dan Ddeddf Cludiant 1985 a 2000 i adolygu鈥檙 rhwydwaith bysiau ac i 
ymyrryd lle mae鈥檔 teimlo ei bod yn briodol.
Yn hanesyddol, mae鈥檙 llwybrau bws 芒 chymhorthdal yn Sir y Fflint wedi鈥檜 sefydlu 
fesul cam, weithiau heb gyfiawnhad real nac achos busnes i gefnogi.  Felly mae 
angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o鈥檙 rhwydwaith a rhoi ystyriaeth i鈥檙 
rhwydwaith masnachol a鈥檙 rhwydwaith a gefnogir fel cyfanrwydd i sicrhau ei fod 
yn adlewyrchu patrymau teithio presennol teithwyr a鈥檌 fod yn diwallu鈥檙 galw 
sy鈥檔 datblygu ar gyfer cludiant i ddatblygiadau newydd.  
Bydd yr adolygiad yn ystyried y rhwydwaith bysiau presennol a gefnogir a sut i 
flaenoriaethu cyllid cyhoeddus sy鈥檔 gynyddol gyfyngedig yn y ffordd orau lle 
mae mwyaf o angen a sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth yn gyson, teg a chyfiawn 
ar draws y Sir.   Felly, bydd yr adolygiad yn cynnwys ardaloedd o鈥檙 Sir nad 
ydynt yn cael eu gwasanaethu gan gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd a rhoi 
ystyriaeth i ddarpariaeth fasnachol bresennol gwasanaethau i ganolfannau 
allweddol a nodi unrhyw fylchau lle mae angen presennol neu angen yn y dyfodol.
Bydd cyfnod ymgynghori chwe wythnos yn dechrau ar 23 Ebrill 2018 a fydd yn 
gofyn am farn aelodau鈥檙 cyhoedd a budd-deiliaid allweddol o ran y datrysiad 
cludiant mwyaf priodol yn eu hardal leol.  Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio nodi 
patrymau teithio presennol, gan gynnwys lle a phryd mae angen cludiant, pwrpas 
teithio a pha un o鈥檙 opsiynau arfaethedig fydd yn darparu datrysiad cludiant 
cynaliadwy yn y dyfodol.
I gynorthwyo gyda hyn, mae鈥檙 Sir wedi鈥檌 rhannu鈥檔 bedair ardal ddaearyddol i 
flaenoriaethu a chanolbwyntio鈥檙 angen cludiant i gymunedau unigol. Yn yr 
ardaloedd hyn, mae pedwar opsiwn yn cael eu cyflwyno i鈥檞 hystyried. Y rhain yw 
1) Rhoi鈥檙 gorau i roi cymhorthdal i lwybrau bysiau yn llwyr 2) Parhau gyda鈥檙 
llwybrau 芒 chymhorthdal presennol yn unig 3) Cefnogi llwybrau bysiau ar y 
rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno Trefniadau Teithio Lleol mewn ardaloedd 
oddi ar y rhwydwaith craidd (fel cymunedau gwledig) 4) Cefnogi llwybrau bysau 
ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno gwasanaeth 鈥榞alw a theithio鈥 sy鈥檔 
ymateb i alw ar gyfer ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd (fel cymunedau 
gwledig).
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 
鈥淩wy鈥檔 deall pwysigrwydd cludiant bws; i lawer o bobl mae鈥檔 hanfodol ac rwyn 
ymrwymedig i wneud y gorau y gallwn yn Sir y Fflint i ddarparu gwasanaeth 
bysiau effeithiol, fforddiadwy a chynaliadwy. Rwy鈥檔 annog cymaint o bobl ag 
sy鈥檔 bosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod barn y cyhoedd yn 
helpu i lunio dyfodol cludiant yn ein cymunedau. Bydd nifer o ddigwyddiadau 
ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned lle gall pobl siarad 芒 swyddogion yr awdurdod i gael 
rhagor o wybodaeth a bydd swyddogion yn teithio ar fysiau i siarad 芒 theithwyr 
i ofyn am eu barn.  Os oes gennych grwp cymdeithasol neu gymdeithas a fyddai鈥檔 
cael budd o gyfarfod am yr ymgynghoriad hwn, cysylltwch 芒 swyddogion Strydwedd.鈥
Mae manylion am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Sir y 
Fflint neu gan ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd 5 sesiwn ymgysylltu 
芒鈥檙 cyhoedd yn y Sir i breswylwyr siarad 芒 swyddog o鈥檙 awdurdod i gael rhagor o 
wybodaeth.
Canolfan Gymunedol Hawksbury, Bwcle - 26 Ebrill 2018
Neuadd y Dref yr Wyddgrug 鈥 27 Ebrill 2018
Swyddfeydd Cyngor Tref Treffynnon 鈥 2 Mai 2018
Canolfan Ddinesig Cei Connah 鈥 3 Mai 2018
Neuadd y Dref y Fflint 鈥 10 Mai 2018
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 streetscene@flintshire.gov.uk neu 01352 
701234.